'Bai annheg' ar bobl ifanc am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ffion, Dewi a Charlotte o Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion, Dewi a Charlotte o Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn dweud bod rhai problemau gwrthgymdeithasol yn yr ardal, ond bod y rheiny'n aml o ganlyniad i ddiffyg cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc yn gallu cael eu "beio yn annheg" am broblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, pan mai'r gwir yw bod angen buddsoddi mwy mewn pethau iddyn nhw ei wneud.

Dyna farn rhai o blant yng Ngwent, wrth i ffigyrau diweddar ddangos mai honno ydy'r ardal yng Nghymru lle mae'r broblem yn ymddangos ar ei waethaf.

Dim ond pedwar rhanbarth arall yng Nghymru a Lloegr gyfan sydd â chyfradd uwch o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG).

Yn ôl cyn-blismon o Goed-duon yng Nghaerffili, sydd wedi profi problemau yn y dref, mae angen gwell presenoldeb heddlu er mwyn taclo'r broblem.

Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw fu'n trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol yr ardal

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwnc mae pobl wedi ei godi gyda BBC Cymru fel rhan o gynllun Dy Lais, Dy Bleidlais cyn etholiad y Senedd yn 2026.

Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2025 roedd 'na dros 45,000 achos o YGG wedi ei gofnodi yng Nghymru.

Ar gyfradd o 13.34 (fesul 1,000 o'r boblogaeth), roedd hyn 7% yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Ond roedd cyfradd Gwent (18.18) tipyn yn uwch, gyda rhai lleoliadau fel Casnewydd, Pont-y-pŵl a Choed-duon dros ddwbl y cyfartaledd.

Cody, Efan ac Eben o Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o'r disgyblion, gan gynnwys Cody, Efan ac Eben, yn teimlo bod angen buddsoddi mwy mewn cyfleusterau fel clybiau ieuenctid er mwyn rhoi rhywbeth i bobl ifanc ei wneud

Yn ôl data agored yr heddlu, wedi'i gasglu gan wefan CrimeRate, roedd rhanbarthau fel Gwynedd a Chlwyd hefyd yn y 10 uchaf ar draws Cymru a Lloegr pan oedd hi'n dod at gyfraddau YGG.

Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl wedi gweld problemau yn eu hardal nhw, ond yn teimlo bod angen cydnabod y cyd-destun hefyd.

"Dwi'n byw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru," meddai Charlotte, 17, sydd hefyd yn cadeirio Fforwm Ieuenctid Torfaen.

"Mae 'na blant sydd methu darllen, sydd ddim gyda diddordebau, felly wrth gwrs mae 'na ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Cysylltwch â ni

Dy Lais, Dy Bleidlais

Ychwanegodd Lowri, 16: "Mae wastad olion pobl yn cymryd cyffuriau yn y caeau, yn y parc.

"Sawl gwaith dwi 'di bod yn y stiwdio ddawns ac mae pobl yn taflu cerrig at y ffenestri, sydd weithiau'n torri'n ffenest, ac yn amlwg yn beryglus."

Mae Dewi, 17, yn gweld bod rhai busnesau wedi ceisio cymryd camau, ond nad yw hynny'n ddigon i daclo gwraidd y broblem.

"Un enghraifft yw McDonalds - maen nhw'n chwarae cerddoriaeth glasurol i gael plant sydd falle efo'r temtasiwn i ymddwyn fel yna i fynd allan," meddai.

"Ond mae'r broblem yn dod ar ôl hwnna. Ble maen nhw'n gallu mynd i atal nhw rhag mynd allan ar y strydoedd?"

'Ddim eisiau cael bai oherwydd fy oedran'

Ond mae rhai yn teimlo bod pobl ifanc yn cael eu portreadu'n annheg oherwydd ymddygiad lleiafrif bychan.

"Mae pobl yn gweld grwpiau o bobl ifanc yn hongian o gwmpas ac maen nhw wastad yn awgrymu ni'n 'neud rhywbeth yn anghywir, ond rhan fwyaf o'r amser dydyn ni ddim," meddai Ffion, 16.

"Roedd cenhedlaeth mam gydag Ysgol Sul, mwy o glybiau fel 'na, ond dydyn ni ddim.

"Mae disgwyliadau i ni jyst fynd o flaen sgrin, ond wedyn rydyn ni'n cael ein beio a stereoteipio am fod ar eich ffôn drwy'r amser, ond does dim byd arall i 'neud."

Dewi, Phoebe a Lowri o Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi, Phoebe a Lowri yn teimlo bod stigma annheg yn bodoli am bobl ifanc weithiau, oherwydd ymddygiad lleiafrif

Ychwanegodd Phoebe, 12: "Nawr mae gan lot o blant a phobl ifanc ofn gwisgo du neu fynd mas mewn grwpiau mawr, achos bydd pobl yn edrych arnyn nhw a meddwl 'dyna giang, dyna bobl gwrthgymdeithasol'."

Dywedodd Dewi, 15, nad pobl ifanc sydd wastad ar fai am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Dwi ddim isie mynd allan ar y stryd a cael fy edrych ar fel dwi 'di 'neud rhywbeth yn anghywir pan dwi ddim, a dwi ddim isie cael fy meio am fy oedran i," meddai.

Clwb ieuenctid yr Urdd yng Ngil-y-coed, Sir Fynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan nifer o drefi a phentrefi glybiau ieuenctid, ond dydyn nhw ddim wastad yn cael eu gweld fel llefydd "cŵl" i fynd, yn ôl rhai pobl ifanc

Mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau i bobl ifanc oedd awgrym sawl un o'r disgyblion, ac mae'r rheiny sy'n mynychu clwb ieuenctid yr Urdd yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy, yn cytuno.

"Dwi'n meddwl mae clybiau ieuenctid fel hyn yn dda iawn, oherwydd ti'n gallu creu ffrindiau, gwneud pethau newydd a chael hwyl," meddai Phoebe, 11.

Ychwanegodd Kayson, 11, ei fod yn ymwybodol o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn llefydd fel y parc neu'r pentref, ond bod y clwb yn le "saff" i ddod.

"Mae angen mwy o lefydd i ymlacio, achos mae pobl dwi'n gweld yn mynd mas, cael mewn trwbl neu rhywbeth, ac mae jyst yn effeithio ar bopeth," meddai.

Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn derm cyffredinol am gategori eang o broblemau.

Dydy rhai, fel codi sŵn, gollwng sbwriel a chodi gwrychyn pobl, ddim yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gweithred droseddol.

Ond mae rhai esiamplau o dorcyfraith gan gynnwys troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, aflonyddu neu ddifrod troseddol.

Oherwydd hyn, mae'n bosib bod YGG yn cael ei dan-adrodd.

Yn yr arolwg trosedd diweddaraf ar gyfer Cymru a Lloegr, dywedodd 36.7% o'r ymatebwyr eu bod nhw wedi "gweld/profi YGG yn eu hardal leol yn bersonol".

Ym mis Mawrth 2023, fe gyhoeddodd y Swyddfa Gartref ymchwil i effaith YGG ar unigolion a chymunedau.

Roedd yr effeithiau emosiynol ar bobl yn cynnwys anfodlonrwydd, dicter, ofn, colli hyder, trafferth cysgu a gorbryder.

'Pam ni'n gorfod teimlo fel 'na?'

Mae Eve Sipos yn arwain dosbarthiadau ioga a dawnsio polyn ym Mhont-y-pŵl, sy'n ymarfer mewn lleoliad yng nghanol y dref.

Mae'n dweud bod problemau ymddygiad wedi gwaethygu ar ôl cyfnodau clo Covid, yn enwedig ar ôl i blant oedd yn ymgynnull tu allan ddod i wybod am natur rhai o'r dosbarthiadau.

Eve Sipos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eve Sipos yn dweud bod rhai pobl wedi stopio dod i'w dosbarthiadau dawnsio polyn yn y gorffennol oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol y tu allan oedd yn aflonyddu ar y cleientiaid

"Mae lot o bobl yn meddwl bod dawnsio polyn jyst yn golygu dawnsio o gwmpas mewn ychydig iawn o ddillad," meddai Eve, sy'n wreiddiol o Hwngari.

"Ond dwi'n pwysleisio'n fan hyn yr ochr ffitrwydd o bethau, a chodi hyder.

"[Oherwydd y trafferthion] dwi'n annog fy nghleientiaid i gyrraedd a gadael gyda'i gilydd."

Ceri Perkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Perkins yn mwynhau dod i'r dosbarthiadau, ond yn dweud bod yr heddlu'n gallu bod yn araf i ymateb pan maen nhw'n cael eu galw os oes trafferthion

Mae Ceri Perkins o Ystrad Mynach yn un o'r rheiny sy'n dod i'r dosbarth, ac yn dweud bod y plant wedi ceisio dod i mewn i'r stiwdio ambell waith.

"Pan 'dyn ni'n gadael maen nhw jyst yn hanging around tu fas... maen nhw'n dilyn ni i'r car park, mae jyst yn teimlo'n pretty horrid really," meddai.

"Pan dwi ar ben fy hun dwi'n poeni, ond pan rydw i gyda ffrindiau dwi ddim yn teimlo mor ddrwg. Ond pam 'dyn ni'n gorfod teimlo fel 'na?"

'Ddim eisiau mynd mas gyda'r nos'

Bu Mark Matthews, 70, yn gweithio i Heddlu Gwent am dros 30 mlynedd, ac mae'n dweud bod problemau gwrthgymdeithasol ar gynnydd.

Dywedodd ei fod bron wedi cael ei daro i'r llawr gan berson ifanc ar e-sgwter yng nghanol Coed-duon yn ddiweddar – a phan ddywedodd ei wraig rywbeth wrth y person, bod y ddau wedi cael eu sarhau a'u bygwth.

"Mae e'n effeithio ar eich hyder chi," meddai. "'Dych chi jyst ddim yn siŵr beth sy'n mynd i ddigwydd.

"Fi ddim eisiau bod mewn ffeit gyda bachgen 17 neu 18 oed sydd eisoes yn torri'r gyfraith, ac yn cuddio pwy yw e tu ôl i balaclava. Beth arall allen nhw ei wneud?"

Ychwanegodd y byddai plismona mwy gweledol "yn help mawr".

Mark Matthews, cyn-swyddog gyda Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Matthews, sy'n gyn-swyddog gyda Heddlu Gwent, yn dweud nad yw'n teimlo'n saff bellach yn cerdded lawr ei stryd fawr leol wedi iddi nosi

Dywedodd Heddlu Gwent bod manylion cyswllt ar gyfer swyddogion lleol ar gael ar eu gwefan, a bod y wybodaeth yn cael ei hadolygu'n fisol.

Maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at Dimau Gweithredu Cymunedol i daclo YGG a defnydd o gerbydau anghyfreithlon mewn ardaloedd yn y rhanbarth, sydd eisoes wedi arestio 120 o bobl mewn pedwar mis.

Doedd y llu ddim am wneud sylw pellach.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fwriad i ddileu swyddi'r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, a symud eu dyletswyddau nhw i feiri etholedig yn Lloegr.

Ond gan nad oes gan Gymru system debyg o ran meiri etholedig, dyw hi ddim yn glir beth fydd hynny'n ei olygu ar gyfer atebolrwydd y lluoedd heddlu yn y dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.