Cynllun i 'drawsnewid triniaeth canser'

  • Cyhoeddwyd
Celloedd canser y fronFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cleifion sy'n dioddef o ganser y fron yn cymryd rhan yn y cynllun

Mae tua 9,000 o gleifion canser wedi cael cais i gymryd rhan mewn profion genynnol allai wella therapïau.

Bydd samplau o diwmorau yn cael eu profi am namau genynnol ac fe fydd labordai yn Llundain, Caerdydd a Birmingham yn cymharu canlyniadau'r triniaethau.

Bydd Ymchwil Canser DU yn gofyn i gleifion gymryd rhan yn elfen gynta'r cynllun.

Dywedodd Yr Athro Malcolm Mason o Ganolfan Feddygaeth Ganser Abrbrofol Caerdydd fod y cynllun yn un cyffrous.

Ni fydd y profion yn altro triniaeth cyfredol y cleifion.

Dywedodd Ymchwil Canser mai nod y prosiect oedd creu gwasanaeth profi genynnol o'r safon uchaf ar gyfer cleifion canser y Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain.

Yn ôl yr ymchwilwyr bydd y cynllun yn sicrhau y bydd cleifion yn cael y driniaeth briodol pan fydd therapïau a chyffuriau newydd yn dod i'r fei.

Bydd cleifion sy'n dioddef o chwe math gwahanol o ganser yn cymryd rhan yn y prosiect: y fron, y coluddyn, yr ysgyfaint, y prostad, yr ofari a'r croen.

Fe fydd saith o ganolfannau feddygaeth ganser arbrofol Ymchwil Canser y DU (CMGA) yn cymryd rhan yn y prosiect a bydd cleifion yn cael cais am eu caniatâd i ymchwilwyr gymryd samplau o'u tiwmorau ar gyfer y profion.

Bydd y labordai yn echdynnu'r DNA o'r samplau a cheisio canfod nifer o namau molecwlar sy'n gysylltiedig â chanser.

'Rhan allweddol'

Bydd y canlyniadau yn cael eu cadw ochr yn ochr ag ystod o wybodaeth glinigol fel trefn cyffuriau cleifion, i ganfod y driniaeth gorau am ddiffygion penodol.

Bydd cleifion sy'n cael eu trin gan bum ysbyty neu ymddiriedolaeth iechyd yn rhan o'r 20 sefydliad bydd yn cymryd rhan yn y prosiect gan gynnwys Ysbyty Athrofaol Cymru, Ymddiriedolaeth Iechyd Felindre, Ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe ac Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Dywedodd Yr Athro Malcolm Mason, prif ymchwilydd GMCA Caerdydd: "Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan allweddol i dargedu'r triniaethau sydd ar gael ar gyfer cleifion canser yn y Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r holl gleifion a fydd yn gadael i ni gymryd camau breision i geisio curo canser."

Dywedodd James Peach, cyfarwyddwr Rhaglen Feddygol Haenol Ymchwil Canser y DU: "Rydyn ni wedi cymryd camau breision i ddadansoddi sail enynnol canser yn ystod y 10 mlynedd ers i'r Genom Dynol gael ei gyflawni.

"Rydyn ni'n gwybod erbyn hyn fod pennu triniaeth yn ôl sail enynnol tiwmor yn gwella'r posibilrwydd o gyflawni triniaeth lwyddiannus.

"Mae'r rhaglen hon yn nodi dechrau'r daith ond mae lawer o waith i'w wneud cyn i bob claf canser elwa o feddygaeth bersonol.

"Rwy'n hyderus y bydd meddygaeth bersonol yn drawsnewid triniaeth canser gan achub nifer o fywydau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol