£55m arall i deuluoedd tlawd

  • Cyhoeddwyd
BabanFfynhonnell y llun, Science
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn rhoi gofal plant di-dâl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd nifer y plant sy'n elwa ar gynllun ar gyfer teuluoedd difreintiedig yn dyblu.

Bydd £55 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar gynllun Dechrau'n Deg dros gyfnod o dair blynedd.

Mae'r cynllun yn darparu gofal plant di-dâl a chyngor i deuluoedd am sut i fod yn rhieni da.

Hefyd mae'n darparu ymwelwyr iechyd.

Dywedodd swyddogion y byddai newid yn y modd mae'r arian yn cael ei ddosbarthu.

Yn ôl llefarydd, bydd y drefn newydd yn ei gwneud hi'n llai tebygol y bydd teuluoedd tlawd mewn ardaloedd cyfoethog ar eu colled.

Dywedodd gweinidogion y byddai 36,000 nid 18,000 o blant o dan bedair oed yn elwa.

Mae gofal plant di-dâl ar gael ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed a chynghorau lleol sy'n darparu'r gwasanaeth.

'Amddiffyn'

Dywedodd Gwenda Thomas, y gweinidog â chyfrifoldeb am blant: "Mae'n gyfnod anodd i deuluoedd, ac mae angen i ni amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn derbyn £39 miliwn y flwyddyn.

Yn ddiweddar, fe ddywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wrth BBC Cymru fod angen i lywodraethau Llundain a Bae Caerdydd ganolbwyntio ar waredu tlodi ymhlith plant.

Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y plant yng Nghymru o deuluoedd tlawd.

Mae teulu o bedwar sy'n derbyn incwm o £374 neu lai yr wythnos yn cael ei ystyried yn dlawd.

Yng Nghymru fe wnaeth y ganran o blant tlawd ostwng i 28% rhwng 1997 a 2003 ond ers hynny mae wedi codi i 33%.

Y cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Gyfunol yw 30%.