Gwarchod plant: 'Angen gwella'

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor Sir BenfroFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y cyngor eu bod yn astudio cynnwyr yr adroddiad

Mae adroddiad wedi dweud nad oedd asiantaethau gwarchod plant yn Sir Benfro wastad yn cydweithio'n effeithiol.

Mae arolwg pum arolygiaeth wedi canfod "diffyg arweinyddiaeth strategol" wedi dau adroddiad beirniadol, gan gynnwys un gyfeiriodd at broblemau gwarchod plant rhag cael eu cam-drin.

Dywedodd y cyngor sir eu bod wedi derbyn yr adroddiad diweddaraf ac yn astudio'r cynnwys.

Safon

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACM), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (APM).

Cafodd yr arolwg ei drefnu gan Ddirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Gwenda Thomas, wedi ymchwiliad AGGCC ac Estyn ym mis Awst a gwestiynodd safon cydweithio'r gwasanaethau addysg o ran gwarchod plant.

Mae'r arolwg wedi dweud bod rhaid i bob asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc wella eu trefniadau rheoli ynglŷn ag ymateb i honiadau camdrin proffesiynol.

Dywedodd Imelda Richardson, Prif Arolygydd AGGCC: "Casglodd yr arolwg nad oedd yr ymateb amlasiantaethol i honiadau camdrin proffesiynol wedi'i ganolbwyntio'n ddigonol ar blant ac rydyn ni wedi nodi sawl gwelliant allweddol sydd eu hangen.

'Positif'

"Mae hyn yn cadarnhau canfyddiadau'r ymchwiliad blaenorol AGGCC ac Estyn o ran delio â honiadau camdrin yn erbyn staff addysg.

"Nododd arolygwyr fod yna rai ffactorau positif, yn bennaf bod rhai gweithwyr proffesiynol ymroddedig yn barod i gydweithio.

"Maen nhw angen cefnogaeth ac ymrwymiad penaethiaid eu sefydliadau a chefnogaeth Bwrdd Lleol Diogelu Plant Sir Benfro os yw trefniadau gwarchod plant yn y sir i wella."

Yn ystod ymchwiliad Estyn a'r AGGCC ym mis Awst bu ymchwiliad i 25 achos honedig o gam-drin plant o fewn y gwasanaeth addysg rhwng 2007 a 2011.

Achos y prifathro David Thorley, gafwyd yn euog o naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blant yn 2009, oedd sbardun yr ymchwiliad.

Dywedodd Estyn fod yr awdurdod lleol wedi cyrraedd neu ragori ar ddim ond saith o'r 12 meincnod yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl ers pedair blynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol