Stryd fawr Machynlleth yn gosod goleuadau Nadolig wedi'r cwbl

Cafodd coeden Nadolig y dref ei goleuo mewn seremoni nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bydd stryd fawr Machynlleth yn cael ei goleuo i ddathlu'r Nadolig wedi'r cwbl, diolch i gyllid gan gronfa'r Maer a rhodd gan aelod dienw o'r cyhoedd.
Roedd Clwb Rotari Machynlleth, sydd wedi bod yn gyfrifol am osod y goleuadau ers blynyddoedd lawer, wedi dweud yn wreiddiol bod y ffioedd i'w gosod a'u tynnu i lawr yn rhy uchel i wneud hynny eleni.
Fe ddywedodd y clwb fod cost gosod y goleuadau gan Gyngor Powys "bedair gwaith uwch" na'r blynyddoedd blaenorol a'u bod wedi penderfynu peidio â'u gosod.
Roedd hynny er i Gyngor Powys ddweud nad oedd y clwb rotari wedi bod mewn cyswllt am ddyfynbris ar gyfer gosod addurniadau Nadolig eleni.
Ond fe gyhoeddodd Cyngor Tref Machynlleth ddydd Llun fod y goleuadau Nadolig yn cael eu gosod wedi'r cwbl, ar ôl cynnal seremoni i oleuo'r goeden dros y penwythnos.
Machynlleth 'yn y tywyllwch' heb unrhyw oleuadau Nadolig
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Yn ôl Maer Machynlleth, Jeremy Paige, fe lwyddon nhw i logi cwmni preifat i osod y goleuadau "ar fyr rybudd neithiwr" diolch i rodd a dderbyniwyd gan aelod dienw o'r cyhoedd, a gafodd ei ychwanegu wedyn at arian o gronfa'r maer.
Dywedodd: "Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd dienw. Rwy'n gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn, a gwneud y goleuadau yn well, flwyddyn ar ôl blwyddyn.
"Doedd y Nadolig erioed wedi ei ganslo yma.
"Beth mae'r dref hon yn adnabyddus am, os unrhyw beth yw ei gwydnwch, ac rydym yn ddatryswyr problemau felly rwy'n hapus iawn bod y mater hwn wedi'i ddatrys.
"Mae modd defnyddio cronfa'r maer ar gyfer unrhyw beth a allai fod o fudd i'r dref a thrwy ddefnyddio cwmni arall, a roddodd ddyfynbris mwy cymedrol o'i gymharu â'r un gan Gyngor Powys, roeddem yn gallu eu gosod wedi'r cyfan."
Mae Cyngor Powys wedi cael cais am ymateb.