Daily Post i barhau yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Daily PostFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Perchnogion y Daily Post "wedi ymroi" i'r papur yn y gogledd

Dywed y cwmni sy'n berchen ar y Daily Post eu bod wedi llwyr ymroi i barhau i gyhoeddi papur dyddiol yng ngogledd Cymru a hynny chwe diwrnod yr wythnos.

Daw'r sylw ar ôl cyhoeddiad fod Trinity Mirror wedi penderfynu troi'r chwaer rifyn, sy'n cael ei werthu ar Lannau Mersi, yn bapur wythnosol.

Bydd y Daily Post, rhifyn Lerpwl, yn cael ei werthu bob dydd Iau, a bydd y gwasanaeth ar-lein dyddiol yn parhau.

Cafodd y papur ei sefydlu 156 o flynyddoedd yn ôl.

"Rydym yn gwerthfawrogi fod y byd yn newid a bod arferion prynu pobl yn newid, a hefyd eu hanghenion," meddai Mark Thomas, golygydd Y Liverpool Daily Post.

Yn ôl y cwmni bydd y newid yn golygu y bydd tua chwech o newyddiadurwyr yn colli eu gwaith.

Yr wythnos diwethaf fe honnodd Undeb y Newyddiadurwyr y gallai'r Western Mail droi'n wythnosol yn lle dyddiol.

Roedd rhybudd yr undeb mewn cyflwyniad i Aelodau Cynulliad sy'n ymchwilio i ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

Ond dywedodd coedwyr y papur, Trinity Mirror, wedi dweud nad oedd cynlluniau o gwbl i droi'r papur yn wythnosolyn.