Arolwg i broblem asbestos Ysbyty Bronglais
- Cyhoeddwyd
Bydd arolwg yn cael ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru o'r modd y cafodd asbestos ei reoli yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Daeth i'r amlwg y gallai hyd at 30 o staff cynnal a chadw fod wedi dod i gysylltiad ag asbestos yn yr ysbyty.
Mae prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, David Sissling, wedi comisiynu'r arolwg annibynnol "er mwyn i wersi gael eu dysgu."
Ym mis Awst dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd asbestos wedi cyrraedd mannau cyhoeddus, a bod cleifion ac ymwelwyr yn ddiogel.
Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad, a dywed y bwrdd iechyd eu bod yn cynnal ymchwiliad mewnol.
Roedd problemau'r ysbyty rhwng 2004 a 2009, cyn bodolaeth y bwrdd iechyd presennol.
'Gwersi i'w dysgu'
Dywedodd Mr Sissling: "Rwy'n teimlo ei bod yn bwysig i gynnal yr arolwg er mwyn gweld a oes yna wersi i'w dysgu wrth drin asbestos.
"Mae hynny'n benodol yn achos Ysbyty Bronglais, ond yn fwy cyffredinol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Unwaith y cawn ni gasgliadau ac argymhellion, fe wnaf ystyried pa gamau, os o gwbl, fydd angen eu cymryd.
Clive Grance, cyn gyfarwyddwr cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru a phrif weithredwr Blaenau Gwent, fydd yn arwain yr arolwg.
Bydd yr adroddiad, ag unrhyw argymhellion, yn cael eu rhoi i Mr Sissling erbyn Ionawr 30, 2012.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Byddwn yn cyd-weithredu gyda'r arolwg, fel yr ydym wedi gwneud gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
"Mae gwaith sylweddol eisoes wedi ei wneud i sicrhau fod yr asbestos yn cael ei roli yn effeithiol yn ein hadeiladau."
Peryglus
Mae'n annhebygol y bydd y bwrdd yn cael eu herlyn, oherwydd beth ddigwyddodd ym Mronglais.
Ni chafodd cyfrifoldeb troseddol eu trosglwyddo, pan ad-drefnwyd y Gwasanaeth Iechyd yn 2009.
Golygai hynny fod hi'n llai tebygol i achos llys fod yn llwyddiannus.
Mae asbestos yn beryglus wrth i ffibrau gael eu rhyddhau i'r awyr. Fe allai anadlu'r aer llygredig achosi marwolaeth mewn rhai achosion.