Treth etifeddiant: Pennaeth undeb 'ddim yn hyderus' o weld newid

Llun o bedair gwartheg yn pori ar laswellt mewn ysgubor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n flwyddyn ers i'r Canghellor gyhoeddi'r polisi treth etifeddiant amaeth dadleuol

  • Cyhoeddwyd

Mae'n annhebygol y bydd yna unrhyw newid i bolisi treth etifeddiant amaethyddol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl pennaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).

Dywedodd Guto Bebb, Prif Weithredwr grŵp UAC sydd hefyd yn gyn-Aelod Seneddol, fod yr undebau amaeth wedi gwneud gwaith aruthrol yn ceisio dylanwadu ar wleidyddion ers i'r polisi gael ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl, ond nad yw'n meddwl y bydd yna unrhyw newid.

"Mi faswn i yn awgrymu wrth aelodau UAC bod gweld newidiadau yn rhywbeth dwi ddim yn hyderus fydd yn digwydd," meddai wrth raglen Ffermio ar S4C.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn cefnogi ffermwyr gyda chyllideb sy'n "tyfu busnesau, yn sicrhau bod mwy o fwyd Prydeinig ar ein platiau ac yn helpu adfer natur".

Y llynedd cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai'r rhyddhad treth amaeth a busnes yn newid o Ebrill 2026.

Mae'n golygu y bydd 'na dreth o 20% ar eiddo amaethyddol sydd wedi eu hetifeddu gwerth mwy na £1m - ond fe allai'r trothwy yna fod yn uwch yn dibynnu ar amgylchiadau personol.

"Y broblem hefo'r penderfyniad yma i fynd ar ôl amaethwyr ydi ei fod yn gwneud amaeth yn anodd iawn i fod yn gynaliadwy wrth symud ymlaen oherwydd mae codi treth etifeddiant ar fusnes sydd ddim yn gwneud llawer o elw yn codi'r cwestiwn ynglŷn â sut mae'r busnes i fod i dalu'r bil dan sylw," meddai Mr Bebb.

Guto Bebb yn sefyll o flaen arwydd Undeb Amaethwyr Cymru, tu allan i'r swyddfa. Mae'n edrych ar y camera ac yn gwisgo crys gwyn gyda siaced wyrdd a throwsus du. Mae ganddo wallt llwyd.
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Guto Bebb "ddim yn hyderus" o weld newid ym mholisi Llywodraeth y DU

Er mwyn ceisio gwneud hi'n haws i'r sector amaeth, mae'r polisi yn galluogi ffermwyr i dalu'r dreth mewn rhandaliadau di-log dros 10 mlynedd.

Ond tydi hynny ddim yn mynd i fod o gysur i lawer o fewn y diwydiant, yn ôl Mr Bebb.

"Mi fasa'r Canghellor yn dadlau bod rhoi cyfnod o 10 mlynedd i bobl dalu yn gwneud gwahaniaeth – ond os ydan ni'n edrych ar ddyled gyfartalog o chwarter miliwn mae hynny yn £25,000 y flwyddyn.

"Does 'na ddim lot o ffermydd Cymru yn gwneud hynny mewn blwyddyn."

Dywedodd Llywodraeth y DU na fyddai'r mwyafrif o ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau ac y byddai'r arian a gaiff ei godi drwy'r newid yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.

Llun o'r teulu Evans yn sefyll o flaen ei ysgubor gwartheg. Daniel y mab sydd yn y canol yn gwisgo siwmper lwyd a jîns glas. Mae ganddo wallt brown a barf brown hefyd. I'r chwith mae ei mam, sy'n gwisgo cot law las. Mae ganddi wallt melyn. I'r dde mae ei dad Dai, sy'n gwisgo crys siec glas tywyll a gwyn a jîns glas.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu Evans yn poeni am y dyfodol yn sgil y newidiadau posib i'r dreth etifeddiant

Daniel Evans fydd y bumed genhedlaeth ar fferm Tanygraig yn Silian ger Llanbed – ond mae'r teulu eisoes yn ofni y bydd talu bil y dreth etifeddiant yn y dyfodol yn creu problemau.

"Ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid bod bywoliaeth i'w gael ar y fferm. Os na fydd bywoliaeth i'w gael, fydda i methu a fforddio ffermio," meddai Daniel.

'Cyfnod ansicr i'r diwydiant'

Yn ôl ei dad, Dai Charles Evans, mae'r dyfodol yn ansicr: "Ni ddim yn sicr o'r ffigyrau ond ni yn gwybod y bydd swm sylweddol i'w dalu a bydd rhaid cael benthyciad mawr neu werthu rhan o'r fferm. Dyna oblygiadau'r drefn newydd," esboniodd.

Roedd yn tanlinellu bod ffermwyr eisoes yn talu treth incwm ac yswiriant cenedlaethol a bod y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ben popeth arall sy'n wynebu'r diwydiant ar hyn o bryd.

"Cofiwch," meddai Mr Charles Evans, "mae'n gyfnod ansicr i'r diwydiant amaeth gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd, ni ddim yn gwybod be fydd incwm y fferm am y pump i 10 mlynedd nesaf".

Awel Mai Hughes yn eistedd ar gadair ac yn gwenu wrth edrych ar y camera. Mae ganddi lygaid brown a gwallt melyn. Mae'n gwisgo siwmper du gyda ffrog glas tywyll. I'r dde ohoni mae arwydd coch.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Awel Mai Hughes yn rhagweld effaith 'ddinistriol' ar gymunedau cefn gwlad

Mae Awel Mai Hughes yn un o gyfarwyddwyr cwmni cyfreithwyr Agri Advisor ac maen nhw wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ffermwyr sydd yn gofyn am gyngor olyniaeth.

Nid gor-ddweud, meddai Awel, ydi effaith ddinistriol y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar gefn gwlad.

"O ran y ffermydd bach mae eu gwerth nhw yn mynd dros y trothwy... hyd yn oed y rhai ffermydd sydd yn 100 neu 200 acer," meddai.

"Pan 'da chi'n ystyried gwerth y stoc a'r peiriannau a'r hyn sydd o fewn y busnes dydi miliwn ddim yn mynd yn bell o gwbl.

"Be 'da chi'n mynd i'w weld yn y pendraw ydi tameidiau o dir yn cael eu gwerthu er mwyn talu'r dreth sy'n golygu y bydd y busnes yn llai proffidiol yn y dyfodol. Mae'n mynd i chwalu busnesau cefn gwlad fel 'da ni yn eu gweld nhw."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y DU fod eu "diwygiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Busnes yn hanfodol i drwsio'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt".

"Bydd tri chwarter o ystadau yn parhau i beidio â thalu unrhyw dreth etifeddiant o gwbl, tra bydd y chwarter sy'n weddill yn talu hanner y dreth etifeddiant y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu, a gellir lledaenu taliadau dros 10 mlynedd, heb log."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.