Cyhuddo pumed person wedi marwolaeth dyn ger Pontypridd

Bu farw Liam Woolford mewn digwyddiad yn Rhydyfelin ar 23 Medi
- Cyhoeddwyd
Mae pumed person wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd.
Bu farw Liam Woolford o'r Porth, Rhondda Cynon Taf, ar ôl digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin, yn oriau mân 23 Medi.
Mae Zoe Peters, 36 o Rydyfelin, wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio a chynllwynio i anafu.
Mae disgwyl i Ms Peters ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.
Pedwar yn y llys wedi marwolaeth dyn ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd29 Medi
Cwest: Dyn, 22, wedi marw ar ôl cael ei drywanu ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd15 Hydref
Enwi dyn 22 oed fu farw yn dilyn digwyddiad ger Pontypridd
- Cyhoeddwyd23 Medi
Mae pedwar dyn eisoes wedi ymddangos yn Llys y Goron Casnewydd mewn cysylltiad â'r achos.
Mewn datganiad dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu ac anwyliaid Liam Woolford yn ystod yr amser anodd hwn.
"Hoffwn ddiolch i gymuned Rhydfelin am eu cefnogaeth barhaus yn ystod yr ymchwiliad hwn a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol nad yw wedi dod ymlaen eto i wneud hynny."
Mae disgwyl i'r achos llawn yn eu herbyn ddechrau ym mis Mawrth 2026.