Cyllideb: Dwy blaid yn cytuno
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dod i gytundeb ynglŷn â'r Gyllideb.
Ar Dachwedd 15 fe gollodd Llywodraeth Cymru bleidlais ar ei chynlluniau cyllido ar gyfer y flwyddyn nesa.
Dywedodd datganiad ddydd Gwener: "Mae'r cytundeb yn benllanw wythnosau o drafodaethau. Diben y trafodaethau oedd dyhead y ddwy blaid i sicrhau cyllideb ar gyfer pobl Cymru."
Deellir bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu cefnogi'r gyllideb ar ôl addewid o £20 miliwn ar gyfer grant amddifadedd i ddisgyblion.
Nod y cymhorthdal yw lleihau dylanwad tlodi ar berfformiad addysgol.
Bydd y cynnydd yn golygu bod cyfanswm y cymhorthdal yn codi i £32.04 miliwn ar gyfer 2012-13.
£38.9m
Dywedodd y datganiad fod y ddwy blaid wedi dod i gytundeb ynglŷn â phecyn gwerth £38.9 miliwn i sbarduno'r economi a diogelu swyddi.
Fe fydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn cyhoeddi mwy o fanylion am y pecyn mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Llun.
Ond dywedodd Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fod y cyhoeddiad yn newyddion drwg o ran yr economi yng Nghymru.
Ni fyddai Plaid Cymru, meddai, yn cefnogi cyllideb "oedd ddim yn cynnwys pecyn sylweddol o fesurau i hybu swyddi a busnesau" oherwydd y cyni economaidd.
Wrth ymateb dywedodd Arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad, Andrew RT Davies, fod y cyhoeddiad yn newyddion drwg i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
"Bydd rhaid i ni fod yn ofalus a chraffu yn fanwl ar y pecyn.....
"Mae'n anffodus, tra bod eu cyd-aelodau yn San Steffan yn gwarchod y gyllideb iechyd yn Lloegr, mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dewis peidio blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru."
Bydd y bleidlais derfynol ar y gyllideb ar Ragfyr 6.
Mae gan Lafur 30 AC a'r Democratiaid Rhyddfrydol 5.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011