ACau i drafod cyllideb drafft y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Jane Hutt, ei bod yn obeithiol y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei dderbyn gan y mwyafrif, er bod y gwrthbleidiau wedi galw am newidiadau sylweddol iddi.
Yn ôl ffynhonnell amlwg o fewn y gwrthbleidiau mae angen "newidiadau radical" i gyllideb ddrafft Llafur.
Yr wythnos diwethaf roedd y llywodraeth a'r gwrthbleidiau yn anghytuno ar ôl trafodaethau ar y gyllideb.
Daeth y tair gwrthblaid at ei gilydd i wrthod cynlluniau'r llywodraeth.
Ond dywedodd Ms Hutt ei bod yn gobeithio y bydd ACau "yn dod at ei gilydd".
Mae'r gwelliant gan y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod cyllideb ddrafft o £14.5 biliwn yn methu ateb yn deg y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd, addysg, cyfalaf gwariant a'r economi.
Mae arweinwyr y gwrthbleidiau wedi gwrthod dweud yn gyhoeddus lle y byddan nhw'n gwneud toriadau er mwyn gwneud ateb eu dyheadau tra bod Carwyn Jones, y Prif Weinidog, wedi dweud y bydd trafodaethau yn parhau yn breifat.
Tu ôl i'r llen, mae ymchwilwyr y gwrthbleidiau wedi bod yn cyfarfod er mwyn amlinellu eu dymuniadau.
Yn y cyfamser mae 'na ffrae yn corddi rhwng Plaid Cymru a Llafur am ba mor glir y mae Plaid wedi bod am ei dymuniadau.
Gyda 30 o'r 60 aelod yn aelodau Llafur mae angen i o leiaf un AC o'r gwrthbleidiau gytuno gyda nhw.
Pawb yn bresennol
Mae disgwyl i'r ddwy ochr gael cymaint o aelodau â phosib yn y Senedd ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i'r AC Darren Millar, sydd wedi bod yn absennol o Fae Caerdydd ers torri ei ffêr ar daith ddiweddar â De Affrica, fod yn bresennol.
Fe fyddai canlyniad cyfartal yn golygu bod y cynnig i nodi'r gyllideb drafft a gwelliant y gwrthbleidiau wedi methu.
Mae disgwyl i'r ACau bleidleisio yn derfynol ar y gyllideb ar Ragfyr 6.
Dywedodd Ms Hutt fod y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ymateb i sefyllfa'r economi ac mae'n cael ei adeiladu ar y patrwm gwariant presennol.
"Dwi'n credu y gallwn ddod at ein gilydd," meddai.
"Dwi'n credu y gallwn ddangos, fel ein bod wedi ceisio gwneud, ein bod yn ymateb i'r blaenoriaethau.
"Be fydden nhw'n ei gwtogi? Be fydden nhw'n ei ddileu o'r gyllideb...?"
O ganlyniad i wasgfa gwariant cyhoeddus mae Llywodraeth Cymru yn wynebu llai o arian gan y Trysorlys.
Fe fydd y gyllideb yn lleihau 2% y flwyddyn nesaf ac fe fydd gwariant cyfalaf - ar gyfer adeiladau a strwythurau eraill - yn cael ei gwtogi 10%.
Wedi iddyn nhw ganiatáu ar gyfer chwyddiant fe fydd yr adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol - sy'n derbyn y mwya' o'r gyllideb - yn gweld gostyngiad o £102 miliwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011