Grant loteri i adnewyddu plasty

  • Cyhoeddwyd
Insole CourtFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Insole Court wedi derbyn grant ar gyfer cynllun adnewyddu

Mae plasty Fictorianaidd yng Nghaerdydd ar fin cael ei adfer i'w hen ogoniant.

Mae Insoel Court yn Llandaf wedi cael grant o £165,900 o'r Gronfa Loteri Treftadaeth i baratoi cynllun adnewyddu.

Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, bydd y Gronfa'n cyfrannu £1.9 miliwn arall i wneud y gwaith.

Dywedodd cadeirydd ymddiriedolaeth y plasty, Syr Norman Lloyd-Edwards: "Mae'n newyddion gwych. Gallwn nawr fynd at y penseiri."

Bydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno erbyn diwedd Ionawr 2012.

Ychwanegodd Syr Norman: "Fe fydd ymgynghoriad sylweddol yn cael ei gynnal gyda phobl fel CADW a thrigolion lleol.

"Bydd cyfanswm y gost ddim ymhell o £4 miliwn."

Buddsoddiad cymunedol

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 2014.

Bydd yn cynnwys swyddfeydd, gweithdai ar gyfer busnesau bach, caffi, canolfan i bobl hŷn a meithrinfa i blant.

Cafodd Insole Court ei adeiladu ym 1856 gan James Harvey Insole, perchennog glofa'r Cymer yn y Rhondda.

Cafodd ei werthu dan orchymyn prynu gorfodol gan Gyngor Caerdydd ym 1938 er mwyn adeiladu ffordd Rhodfa'r Gorllewin.

Yn gynharach eleni, fe gafodd rheolaeth yr adeilad a'r tiroedd o'i amgylch ei drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth.

Mae Insole Court bellach yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau cymunedol ac yn cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd.