Pleidleisio i ethol Aelod o'r Senedd Caerffili

- Cyhoeddwyd
Bydd pobl yng Nghaerffili yn gallu pleidleisio ddydd Iau i ethol Aelod o'r Senedd.
Mae'r canolfannau pleidleisio ar agor o 07:00 tan 22:00, gyda disgwyl y bydd canlyniad yn cael ei gyhoeddi yn gynnar fore Gwener.
Fe gafodd yr isetholiad ei galw ar ôl marwolaeth y cyn-aelod Llafur Hefin David.
Bu farw Mr David yn sydyn ar 12 Awst yn 47 oed. Roedd wedi bod yn Aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 2016.
Mae wyth ymgeisydd yn sefyll, a bydd yr enillydd yn Aelod o'r Senedd tan fis Mai 2026 pan fydd yr etholiad llawn nesaf i'r Senedd yn cael ei gynnal.
Yn wahanol i etholiadau i San Steffan, mae pobl 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn yr etholiad hwn ac nid oes angen dangos dogfen adnabod cyn pleidleisio.
Bydd sylw llawn i'r canlyniad ar wefan Cymru Fyw ac ar BBC Radio Cymru.
Rhestr lawn o ymgeiswyr isetholiad Caerffili
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler
Gwlad - Anthony Cook
Y Blaid Werdd - Gareth Hughes
Ceidwadwyr - Gareth Potter
Reform UK - Llŷr Powell
UKIP - Roger Quilliam
Llafur - Richard Tunnicliffe
Plaid Cymru - Lindsay Whittle