Chwe dyn yn euog o derfysg mewn cysylltiad ag anhrefn Trelái

Y chwe dyn sydd wedi eu cael yn euog: Lee Robinson, Zayne Farrugia, Jordan Bratche, Jaydan Baston, Connor O'Sullivan a Luke Williams
- Cyhoeddwyd
Mae chwe dyn wedi eu cael yn euog o derfysg yn dilyn anhrefn yng Nghaerdydd yn 2023.
Cafodd heddlu arfog a'r gwasanaethau brys eu galw i ardal Trelái ar 22 Mai ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu wedi gwrthdrawiad angheuol yn yr ardal.
Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.
Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau cafwyd Lee Robinson, 38, Zayne Farrugia, 25, Jordan Bratcher, 27, Jaydan Baston, 21, Connor O'Sullivan, 26 a Luke Williams, 31, yn euog o derfysg (riot).
Cafwyd McKenzie Danks, 22, yn ddieuog o'r un cyhuddiad - ond mae eisoes wedi cyfaddef dau achos o ymosod ar swyddog heddlu.

Cafodd 31 o swyddogion heddlu eu hanafu yn ystod yr anhrefn yn Nhrelái ym mis Mai 2023
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y trais wedi'i sbarduno gan farwolaethau dau fachgen yn eu harddegau - Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.
Bu farw'r ddau mewn gwrthdrawiad ar eu beic trydan ar Ffordd Snowden yn ardal Trelái'r brifddinas ar 22 Mai 2023.
Cafodd pob diffynnydd eu rhyddhau ar fechnïaeth, gyda Robinson, Bratcher ac O'Sullivan wedi'u rhyddhau ar yr amod eu bod yn cael tag electronig, a bod yn rhaid iddyn nhw aros yn eu cartrefi rhwng 09:00 a 18:00.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke wrth y chwe diffynnydd y byddan nhw'n cael eu dedfrydu yn ddiweddarach, ond y byddai unrhyw ddedfryd yn "arwyddocaol yn nhermau dedfryd o garchar".
Cafodd McKenzie Danks wybod y bydd yn cael ei ddedfrydu ar 26 Tachwedd am y cyhuddiadau y gwnaeth ef eu cyfaddef.

Cafwyd McKenzie Danks yn ddieuog o derfysg, ond roedd eisoes wedi cyfaddef dau achos o ymosod ar swyddog heddlu
Yn ystod rhan gyntaf yr achos - sydd wedi ei rannu i fwy nag un rhan oherwydd nifer y diffynyddion - fe glywodd y llys fod gan yr heddlu tua 200 awr o fideos o noson y terfysg.
Fe ddechreuodd yr anhrefn wedi i honiadau gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol bod fan heddlu wedi dilyn Kyrees Sullivan a Harvey Evans funudau cyn iddyn nhw farw.
Fe wnaeth yr anhrefn ehangu, gyda thua 100 i 150 o bobl wedi ymgynnull ger y safle y bu farw'r ddau fachgen.
Mae mwy na 40 o bobl wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror

- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
