Ymchwiliad: Cantores i roi tystiolaeth

  • Cyhoeddwyd
Charlotte ChurchFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Y disgwyl yw i Charlotte Church roi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson

Fe fydd y gantores Charlotte Church yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad i safonau'r wasg yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i'r gantores o Gaerdydd sôn am benderfyniad News of the World i gyhoeddi bod ei thad wedi bod yn anffyddlon.

Fe fydd Christopher Jeffries hefyd yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad Leveson.

Fe gafodd ei arestio ar gam ar amheuaeth o lofruddio Jo Yeates ym Mryste'r llynedd.

Ffotograffwyr

Y gred yw y bydd Ms Church, 25 oed, yn sôn am benderfyniad News of The World i gyhoeddi stori am ei thad yn cael perthynas â menyw, er bod y papur newydd yn ymwybodol bod mam y gantores yn yr ysbyty wedi iddi geisio lladd ei hun.

Mae'r ymchwiliad eisoes wedi clywed fod y wasg wedi rhoi camerâu cudd mewn llwyni a bod ffotograffwyr wedi ceisio tynnu lluniau i fyny ei sgert.

Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu ym mis Gorffennaf gan Brif Weinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig, David Cameron, mewn ymateb i'r datguddiad bod y News of the World wedi comisiynu Mulcaire i hacio ffôn Milly Dowler.

Cafodd Mulcaire a newyddiadurwr brenhinol y News of the World, Clive Goodman, eu carcharu ym mis Ionawr 2007 ar ôl iddyn nhw gyfaddef eu bod wedi gwrando ar negeseuon ffôn yn perthyn i aelodau o staff y teulu brenhinol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol