Charlotte yn cyhuddo papur newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church, wedi dweud bod iechyd meddwl ei mam wedi dioddef wedi i bapur y News of the World gyhoeddi stori am ei thad.
Dywedodd wrth Ymchwiliad Leveson fod ei mam wedi ceisio lladd ei hun "yn rhannol o leiaf" oherwydd ei bod yn gwybod fod y stori ar fin torri.
Roedd y papur, meddai, eisoes wedi cyhoeddi stori am iechyd meddwl ei mam, "ac roedden nhw felly'n gwybod pa mor fregus oedd hi ond fe gyhoeddon nhw'r stori beth bynnag.
"Dwi'n casáu'r ffaith fod fy rhieni, sydd erioed wedi bod yn rhan o'r diwydiant hwn - heblaw am edrych ar fy ôl i, - wedi cael eu difrïo yn y modd hwn.
"Fe gafodd effaith fawr iawn ar fy mywyd i ac ar iechyd fy mam - ei hiechyd meddwl."
Wrth sôn am driniaeth ei mam yn yr ysbyty, dywedodd: "Yr unig ffordd iddyn nhw wybod am hynny oedd naill ai drwy hacio neu lwgrwobrwyo staff yr ysbyty."
Beichiog
Dywedodd wrth y gwrandawiad ei bod wedi cael ei thrin yn gymharol dyner ar y cychwyn ond yna wedi diodde'r math gwaethaf o orliwio rhwng 16 ac 20 oed.
Roedd ffotograffwyr wedi tynnu lluniau i fyny ei sgert, roedd ffotograffwyr y tu allan i'w chartref ar y rhan fwyaf o ddyddiau, a dywedodd ei reolwr wrthi ei fod wedi gweld tystiolaeth o gamera wedi ei guddio mewn perth ger ei chartref.
Clywodd yr ymchwiliad fod papur y Sun wedi cyhoeddi stori ei bod yn feichiog am y tro cyntaf cyn ei bod wedi dweud wrth ei theulu.
Dywedodd hi ei bod yn credu bod newyddiadurwyr wedi cael y stori drwy hacio negeseuon ar ei ffôn symudol oddi wrth ei meddyg er iddi gyfadde' nad oedd ganddi dystiolaeth i gefnogi hynny.
"Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb ar wahân i'r achlysur pan es i am y sgan cyntaf. Alla i ddim gweld sut y daeth y stori o unman arall.
"Roedd fy nheulu yn ypset iawn nad oeddwn i wedi wrthyn nhw gyntaf."
Ychwanegodd fod elefennau o'r wasg wedi niweidio'i gyrfa gan ei bod hi'n anodd iddi gael ei chymryd o ddifri wedi i'w hygrededd "gael ei chwalu".
Dywedodd ei bod wedi dewis rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad am nad oedd am i'w phlant fynd drwy'r un peth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011