Streic sector cyhoeddus yn amharu ar waith y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y SeneddFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Senedd ym Mae Caerdydd wedi cau ddydd Mercher a nifer o gyfarfodydd wedi eu canslo

Mae gweithredu diwydiannol yn y sector cyhoeddus wedi effeithio ar waith y Cynulliad, gan arwain at ganslo un o sesiynau llawn y Senedd.

Fel arfer, mae 'na sesiwn yn cael ei chynnal bob prynhawn Mercher yn ystod y tymor ond mae'r sesiwn lawn a chyfarfodydd pwyllgor i gyd wedi cael eu canslo oherwydd y streic.

Yn ôl y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, roedd eu holl Aelodau Cynulliad a'u staff yn bwriadu mynd i'r gwaith ddydd Mercher.

Ond doedd aelodau Llafur a Phlaid Cymru ddim yn bwriadu croesi'r llinell biced yn Nhŷ Hywel ble mae swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad.

Cafodd materion yn Siambr y Cynulliad eu trafod ddydd Mawrth neu eu gohirio tan yr wythnos nesa'.

Roedd y Senedd, sydd fel arfer yn agored i'r cyhoedd, wedi cau ddydd Mercher.

'Herio'r llywodraeth'

Roedd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones gyfres o gyfarfodydd yn ystod y dydd. Doedd llefarydd ddim yn fodlon cadarnhau a fyddai'r rheiny yn cael eu cynnal ond dywedodd na fyddai Mr Jones ym Mae Caerdydd nac ym mhencadlys y llywodraeth ym Mharc Cathays.

Er bod rhai gwleidyddion Llafur wedi ymuno â llinellau piced, roedd aelodau'r blaid yn San Steffan wedi mynd i'r Senedd yno.

Dywedodd y blaid y byddai'r arweinydd Ed Miliband yn herio'r llywodraeth yn ystod Sesiwn Holi'r Prif Weinidog.

Mewn llythyr i bapur newydd y Guardian dywedodd dau Aelod Seneddol Llafur Cymreig, Paul Flynn a Martin Caton, na fydden nhw'n fodlon croesi llinellau piced.

Yn ôl Alun Cairns, Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros Fro Morgannwg, roedd Llywodraeth y DU wedi cynnig "consesiynau sylweddol" ar ôl i aelodau undebau fwrw eu pleidlais.

"Rwy'n siomedig fod arweinwyr undeb wedi parhau'n benderfynol i fynd ar streic," meddai wrth BBC Cymru.

"Pan rwy'n siarad yn uniongyrchol ag athrawon ac yn egluro manylion y gwelliannau i'r cynllun, maen nhw wedi'u siomi ar yr ochr orau gyda'r haelioni, yn enwedig pan fo rhywun yn ystyried yr hinsawdd economaidd."

'Cwbl gyfiawn'

Yn ôl Aelod Seneddol Llafur dros Aberafan, Hywel Francis, roedd y streic yn "gwbl gyfiawn ac rwy'n ei chefnogi".

Dywedodd: "Yn hytrach na dweud wrth gannoedd ar filoedd o weithwyr - nifer ohonyn nhw ar gyflogau isel neu'n rhan-amser ac yn wynebu amodau llawer gwaeth - na ddylen nhw streicio, fe ddylai David Cameron gymryd cyfrifoldeb a cheisio dod i gytundeb sy'n deg i bob gweithiwr sector cyhoeddus."

Roedd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, Byron Davies, a llefarydd y blaid ar drafnidiaeth, yn feirniadol o'r ffaith bod y gweithredu wedi arwain at gau Twnnel Trebiwt ym Mae Caerdydd.

Roedd nifer o yrwyr yn wynebu oedi hir yn ystod yr oriau brig ddydd Mercher.

"Mae pawb sy'n teithio wedi gweld effaith y traffig trwm, yn ogystal â busnesau ar draws y ddinas," meddai Mr Davies.

'Teuluoedd, plant a busnesau'

Dywedodd Cyngor Caerdydd: "Mae'n rhaid cadw golwg ar y twnnel rhag ofn bod cerbydau'n torri i lawr neu bod 'na ddamweiniau.

"O ganlyniad i'r streic, dyw hyn ddim yn bosib felly mae'r twnnel wedi'i gau am resymau iechyd a diogelwch er bod pob ymdrech wedi'i wneud i geisio ei gadw yn agored."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan ei bod yn "eitha' blin gyda phenaethiaid yr undebau".

Byddai'r gweithredu yn "amharu ar gymaint o deuluoedd, plant a busnesau ar draws Cymru," meddai wrth BBC Cymru.

"Mae'n resyn eu bod yn gweithredu fel hyn am y rheswm syml bod trafodaethau'n dal i fynd yn eu blaenau am y mater hynod, hynod sensitif hwn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol