Triniaeth canser: Bachgen yn gwella
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen gafodd wybod fod ganddo fath prin o ganser yn 2006 yn parhau i herio barn arbenigwyr meddygol.
Yr adeg honno, roedd gan Connah Broom oedd yn 10 oed 11 tiwmor, a doedd cemotherapi yn cael fawr o effaith.
Ond bellach ac yntau wedi dechrau ar fath o driniaeth amgen sydd wedi costio dros £200,000 i'w deulu, dim ond un tiwmor sydd ar ôl.
Dywedodd ei feddyg teulu fod cyflwr Connah yn hynod, ac mae ei fam-gu yn dweud ei fod yn gwneud yn dda.
Golau laser
Eglurodd Debbie Broom fod y teulu wedi dechrau chwilio am driniaethau eraill ar gyfer y canser, niwroblastoma - sy'n effeithio ar tua 80 o blant ym Mhrydain bob blwyddyn - pan fethodd triniaethau eraill.
Yn 2007 fe glywon nhw am glinig preifat ym Mecsico oedd yn cynnig triniaeth therapi ffotoddeinamig (PDT).
Mae PDT yn defnyddio golau laser neu ffynonellau eraill o olau, ynghyd â chyffur sy'n sensitif i olau er mwyn lladd celloedd canser. Yn y DU, mae'r driniaeth weithiau'n cael ei defnyddio i drin canser y croen a rhai mathau eraill o ganser.
Fe gafodd Connah bythefnos o driniaeth ddwys ym Mecsico gan nad oedd ar gael iddo yn y DU, yn ôl Mrs Broom.
Mae'n parhau gyda'r driniaeth adre lle mae'n byw gyda'i fam-gu a thad-cu a'i dad Chris.
Bellach, wedi pedair blynedd o driniaeth, dywed Mrs Broom fod y 10 tiwmor eilaidd wedi mynd.
"Ry'n ni'n brwydro ac mae Connah'n brwydro," meddai, "ac mae'n gwneud yn wych."
Mae'r tiwmor sylfaenol yn dal ganddo yn ei abdomen, ac mae'n cael triniaeth am ddwy awr bedair gwaith yr wythnos.
Ansicr
Mae Mrs Broom yn grediniol fod PDT ynghyd a diet organig yn gyfrifol fod Connah'n gwneud cystal.
Ond mae meddyg teulu Connah, Dr Eamonn Jessup o Brestatyn, yn ansicr os mai'r driniaeth sydd wedi cael effaith neu os mai corff Connah sydd wedi brwydro'r tiwmorau ei hun.
"Mae ei gyflwr ar hyn o bryd yn hynod," meddai. "Mae'n anesboniadwy bod bron bob un tiwmor fel petai wedi troi eu hunain i ffwrdd.
"Dw'n i ddim ai'r driniaeth neu'r gyfundrefn iechyd y mae Connah'n ei ddilyn sy'n gyfrifol.
"Mae'n iawn fod gwyddonwyr a meddygon yn amheus o driniaethau newydd.
"Ond yn sicr mae rhywbeth mawr wedi newid yn y rhagolygon i Connah."
Ychwanegodd Mrs Broom y byddai'r teulu yn parhau gyda'r driniaeth tan i'r tiwmor olaf ddiflannu.