Dirprwy arweinydd yn ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoyFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Yr wythnos penderfynodd Plaid Cymru ei wahardd dros dro

Mae cynghorydd wedi ymddiheuro am ei sylwadau am elusen Cymorth i Ferched Cymru.

Ar wefan Facebook roedd Neil McEvoy wedi honni bod y mudiad yn ariannu cam-drin plant yn gyhoeddus am eu bod yn cefnogi merched oedd yn torri gorchmynion llys.

Fe yw Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r wythnos hon fe benderfynodd Plaid Cymru ei wahardd dros dro.

"Dwi'n derbyn y dylwn i fod wedi defnyddio iaith oedd yn llai emosiynol," meddai.

"Dylid crybwyll mod i wedi cefnogi gwaith clodwiw mudiadau fel hwn."

Gwadu

Roedd Prif Weithredwr Cymorth i Ferched, Paula Hardy, wedi gwadu'r honiadau ac wedi annog Mr McEvoy i gyflwyno "tystiolaeth".

Yr wythnos hon dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones: "Gallaf gadarnhau bod cwyn wedi ei derbyn sy'n ymwneud â'r Cynghorydd Neil McEvoy.

"Mae'r Blaid wedi atal ei aelodaeth yn unol â rheolau sefydlog y Blaid, hyd nes y gwneir penderfyniad am y gwyn gan Banel Aelodaeth y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

"Gan mai mater mewnol i'r Blaid yw hwn, ni fyddwn yn rhoi unrhyw sylwadau pellach ar y mater ar hyn o bryd."