'Anrhydedd fawr' i Colin Jackson
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-athletwr Colin Jackson wedi cael ei dderbyn fel Llysgennad Laureus - grŵp dethol o bobl o fyd y campau sy'n hybu'r defnydd o chwaraeon fel arf ar gyfer newid cymdeithasol.
Maen nhw'n cefnogi gwaith Academi Chwaraeon Laureus y Byd - sefydliad o 47 o enwau mwyaf y byd chwaraeon sy'n gwirfoddoli eu gwasanaeth i Sefydliad Lles Laureus.
Roedd Jackson yn bencampwr byd yn y ras 110m dros y clwydi deirgwaith ac yn ddiguro ym Mhencampwriaeth Ewrop am 12 mlynedd.
Wrth groesawu Jackson fel Llysgennad Laureus, dywedodd cadeirydd Academi Chwaraeon Laureus y Byd, Edwin Moses, mai Jackson yw un o athletwyr gorau hanes.
"Roedd yn gystadleuydd deallus ac angerddol gyda record anhygoel.
"Mae hefyd yn credu yn y gwerthoedd y mae pawb yn Laureus yn eu parchu - tegwch, gonestrwydd a chywirdeb.
"Rydym yn ffodus iawn ei fod am ymroddi ei egni i weithio gyda Laureus."
'Anrhydedd fawr'
Wrth ymateb dywedodd y Cymro 44 oed fod hyn yn newyddion arbennig iawn.
"Mae'n anrhydedd fawr i mi ddod yn aelod o deulu Laureus.
"Does dim yn fwy pwysig i mi fel athletwr llwyddiannus na medru rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas ac i bobl llai ffodus.
"Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi gwaith Sefydliad Lles Laureus."
13 mlynedd
Ar ôl ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin yn 1986, enillodd Jackson fedal arian yn y Gemau Olympaidd yn Seoul yn 1988.
Ond y 1990au oedd ei gyfnod gorau.
Rhwng 1990 a 2002, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop bedair gwaith yn olynol.
Ym Mhencampwriaeth Stuttgart yn 1993, fe osododd record byd newydd am y ras 110m dros y clwydi gydag amser o 12.91 eiliad - fe safodd y record am 13 mlynedd.
Rhwng Awst 1993 a Chwefror 1995, enillodd 44 o rasys yn olynol.
Yr unig siom yn ei yrfa oedd iddo beidio ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd.
Ers iddo ymddeol yn 2003, bu'n sylwebydd athletau ar y teledu, a bu'n rhan o'r tîm wnaeth gynnig llwyddiannus Llundain i gynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012.
Mae Colin Jackson yn ymuno â'r Gymraes Tanni Grey-Thompson fel aelod o Academi Chwaraeon Laureus y Byd.
Cafodd Sefydliad Lles Laureus ei sefydlu i hybu'r defnydd o chwaraeon fel arf i greu newid cymdeithasol.
Ers ei sefydlu, mae wedi codi mwy na £40 miliwn ar gyfer cynlluniau sy'n cynorthwyo i wella bywydau mwy na miliwn a hanner o bobl ifanc ar draws y byd.