Moch daear: Penderfyniad yn 2012

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynllun i ddifa moch daear yn Sir Benfro ei ohirio ym mis Mehefin

Fe ddywed y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y bydd penderfyniad ar ddifa moch daear mewn rhannau o orllewin Cymru yn cael ei wneud yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am oedi gyda phenderfyniad oedd i fod i gael ei wneud yn yr hydref.

Cafodd y cynllun difa ei atal ym mis Mehefin pan gafodd panel o arbenigwyr ei benodi i adolygu'r dystiolaeth wyddonol.

Roedd y cynllun difa yn rhan o ymgais y llywodraeth flaenorol - clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru - i atal y diciâu mewn gwartheg.

'Dim tystiolaeth'

Yn y senedd ddydd Mawrth, dywedodd Aelod Cynulliad Ceidwadol Preseli Penfro, Paul Davies, mai un o flaenoriaethau ffermwyr yn ei etholaeth oedd taclo'r diciâu mewn gwartheg.

Roedd ei etholaeth yng nghanol yr ardal lle byddai moch daear yn cael eu difa. Dywedodd ei fod ar ddeall mai'r tro diwethaf i'r panel gwrdd oedd ar Dachwedd 11 - pum mis wedi i'r Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, gyhoeddi'r adolygiad.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas, bod y llywodraeth wedi addo na fyddai oedi diangen wrth wneud y penderfyniad.

"Y gwir amdani," meddai, "yw nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol newydd.

"Y cyfan yr ydych yn ei wneud yw gohirio'r penderfyniad am nad oes gennych y dewrder oedd gan y gweinidog blaenorol (Elin Jones o Blaid Cymru)."

Ond dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n "rhyfedd iawn" i rywun oedd heb weld yr adroddiad i ddweud nad oes unrhyw dystiolaeth wyddonol newydd.

Dywedodd Mr Jones: "Fe fydd datganiad llawn yn cael ei gyhoeddi ym misoedd cynnar y flwyddyn nesaf."