CBAC yn gwahardd dau arholwr

  • Cyhoeddwyd
CBACFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

CBAC: Gorffen ymchwiliad o fewn dau ddiwrnod

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gofyn am atebion yn syth oddi wrth fwrdd arholi Cymru, CBAC, ar ôl honiadau bod arholwyr byrddau wedi torri rheolau.

Ddydd Iau fe gafodd dau arholwr CBAC eu gwahardd o'u gwaith wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dywedodd y gweinidog Leighton Andrews fod enw da'r bwrdd arholi "yn y fantol" a bod angen i'r bwrdd ddelio â'r mater yn gyflym.

Mae papur newydd y Daily Telegraph, dolen allanol wedi honni bod athrawon yn Lloegr wedi cael gwybodaeth mewn seminarau byrddau arholi am gwestiynau fyddai'n cael eu cynnwys mewn arholiadau Safon Uwch a TGAU.

Dywedodd y bwrdd arholi yng Nghaerdydd fod yr honiadau amdanyn nhw'n cyfeirio'n benodol at sesiwn hyfforddi undydd ar fanyleb TGAU Hanes CBAC.

Honnodd y papur eu bod wedi ffilmio arholwr CBAC mewn seminar yn rhoi gwybodaeth am gwestiwn gorfodol ac iddo ddweud bod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn "dwyll".

'Addas'

Dywedodd Prif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce: "Rydan ni wedi clywed y gair 'twyll' mewn tâp.

"Mi fydd rhaid i ni edrych ar yr iaith anffurfiol oedd yn cael ei defnyddio gan yr arholwr a phenderfynu a oedd honno'n iaith addas mewn digwyddiad proffesiynol.

"Yr agwedd arall y bydd rhaid edrych arni yw'r ffeithiau oedd yn cael eu cyflwyno gan yr arholwr ynglyn â'r asesiad - a oedd hynny'n gyson gyda'r hyn sydd eisoes mewn dogfennau perthnasol neu a oeddan nhw'n rhoi cyngor ychwanegol?"

Dywedodd y byddai twyllo yn "hollol ddifrifol".

"Y cwestiwn yw dehongli'r sylw yna yng nghyd-destun yr adran yna o'r digwydd ynglŷn â'r cwrs hanes.

"Mae'n ddifrifol iawn bod papur yn gweld angen defnyddio'r math yma o glipiau gan fod y detholiad sydd yn y clipiau yn niweidiol iawn i unrhyw system gyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd honiadau bod arholwyr byrddau arholi wedi rhoi gwybodaeth mewn seminarau

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad fore Iau, meddai, a'r nod fyddai ei orffen o fewn dau ddiwrnod.

"Mae'n cynnwys gwaith manwl yn y swyddfa, cyfweliadau manwl gyda'r ddau arholwr ac rydym yn gobeithio dod i gasgliad cyn y penwythnos."

Mae sgôp yr ymchwiliad yn cynnwys:

i. egluro yr union faterion y cyfeirir atyn nhw gan yr arholwyr yng nghyd-destun asesiadau i ddod;

ii. penderfynu a ydyw'r wybodaeth hon yn gyhoeddus i bawb trwy fanyleb TGAU Hanes CBAC neu ddeunyddiau awdurdodedig eraill;

iii. os nad yw, penderfynu pa effaith y bydd darparu'r wybodaeth hon yn ei gael ar gywirdeb a thegwch asesiadau yn y dyfodol a sut y bydd CBAC yn gweithredu mewn perthynas â'r asesiadau hyn.

"Yn ddibynnol ar ganlyniad yr ymchwiliadau, gall ein hymateb gynnwys creu asesiad newydd ar gyfer TGAU Hanes a darparu cyngor manwl ychwanegol i ganolfannau," meddai llefarydd ar ran CABC.

"Mae sesiynau datblygiad proffesiynol CBAC yn rhoi adborth ar arholiadau blaenorol a chyngor i athrawon ar arfer gorau, gyda'r nod o godi safonau addysgu a galluogi pob myfyriwr i gyflawni eu llawn potensial.

"Rydym yn pryderu'n fawr ynghylch y sefyllfa sydd wedi codi parthed un pwnc penodol, a byddwn yn adolygu'r canllawiau a ddarperir i sicrhau ein bod yn rheoli safon y cynnwys n briodol ac yn osgoi iaith anaddas."

'Yn deg'

Yn ôl y Daily Telegraph, mae'r holl fyrddau arholi wedi addo ymchwiliad llawn a oedd unrhyw arholwr wedi torri'r rheolau.

Mae Ofqual, y corff sy'n rheoli arholiadau yn Lloegr, wedi dweud bod rhaid i arholiadau gael eu cynnal "yn deg ac yn agored i bawb".

Dywedodd Llywodraeth Cymru, y rheoleiddwyr yng Nghymru, eu bod yn ymwybodol o'r honiadau.

"Fel y corff sy'n rheoli canlyniadau yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr honiadau o gamymddygiad o ddifri," meddai llefarydd.

"Rydym yn gweithio gyda'r rheioleiddwyr yn Lloegr (Ofqual) ac yng Ngogledd Iwerddon (CCEA) i sicrhau bod y canlyniadau yn rhoi arwydd dibynadwy a theg o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth fel bod gan y cyhoedd hyder yn y system ganlyniadau.

"Mae'r rheioleiddwyr yn trafod gyda'i gilydd a chyrff eraill sydd o dan sylw i gael y darlun llawn o'r hyn sydd wedi digwydd a chymryd y camau cywir i sicrhau cysondeb ar draws y tair gwlad."

Pe bai tystiolaeth o gamymddygiad, meddai, byddai'r camau cywir yn cael eu cymryd.

Ffilmio

Dywedodd y papur newydd fod athrawon yn talu £200 y dydd i fynychu seminarau gyda'r uwch arholwyr.

Maen nhw'n cynnwys trafodaethau "rheolaidd" a gwybodaeth am arholiadau yn y dyfodol, gan gynnwys pynciau'r maes llafur, beth i ganolbwyntio arno a hyd yn oed eiriau penodol a ffeithiau y dylai myfyrwyr eu defnyddio er mwyn ennill marciau.

Dywedodd y papur fod gohebwyr cudd wedi mynychu 13 o gyfarfodydd gan fyrddau arholi oedd yn cael eu defnyddio gan ysgolion yn Lloegr.

Maen nhw wedi honni bod un arholwr hanes TGAU wedi dweud wrth athrawon fod "cylchdro o themâu" yn cael ei gosod, gan ddweud: "Rydyn ni'n twyllo, rydyn ni'n dweud wrthoch chi beth yw'r cylchdro".

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Gweinidog Addysg: Rhaid i'r bwrdd arholi ddelio â'r mater yn gyflym

Mae Mr Gove wedi gofyn i'r rheoleiddiwr, Ofqual, gynnal ymchwiliad ac adrodd yn ôl o fewn pythefnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofqual fod y mater "o ddiddordeb arwyddocaol".

"Rydyn ni wedi cyflwyno rheoliadau newydd i dynhau'r gofynion ar gyfer sefydliadau i sicrhau nad yw eu gweithgareddau masnachol yn effeithio ar safonau a chywirdeb eu cymwysterau.

"Rydyn ni'n croesawu'r wybodaeth a gasglwyd gan y Daily Telegraph ac mae gennym ni ddiddordeb mewn astudio'r dystiolaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol