Agor canolfan ganser arloesol newydd
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan ganser newydd sy'n defnyddio dulliau arloesol o drin y clefyd wedi ei hagor yn Abertawe ddydd Gwener.
Roedd y Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a'r cyn bêl-droediwr John Hartson yn rhan o'r seremoni swyddogol wrth agor canolfan Maggie's.
Yn ystod brwydr John Hartson yn erbyn canser, bu yntau'n cael triniaeth yng nghanolfan Maggie's, ac mae'n credu'n gryf y gall y ganolfan newydd wneud gwahaniaeth.
Dywedodd: "Rwy'n gwybod o brofiad personol yr effaith ddinistriol y gall canser ei gael arnoch chi, eich teulu a'ch ffrindiau.
"Fe wnaeth staff canolfan dros dro Maggie's yn Ysbyty Singleton yn Abertawe helpu fi i weld fod bywyd y tu hwnt i ganser.
"Rwyf wrth fy modd ein bod ni nawr mewn sefyllfa i agor y ganolfan newydd arbennig yma fydd yn cynnig help i filoedd o bobl Cymru sy'n dioddef o'r clefyd ofnadwy yma."
'Ymdrech aruthrol'
Mae Sefydliad John Hartson wedi cynorthwyo i ariannu'r ganolfan newydd, ac fe fydd John ei hun yn llysgennad i'r canolfannau.
Nod y ganolfan yw ategu at y gofal sy'n cael ei gynnig yn Ysbyty Singleton, gan gynnig rhaglen o gefnogaeth i fynd â phobl drwy'r cymhlethdodau emosiynol ac ymarferol sy'n dilyn diagnosis o ganser.
Dywedodd Prif Weithredwr Maggie's, Laura Lee: "Mae pobl ar draws y rhanbarth wedi gwneud ymdrech aruthrol o godi arian ar gyfer y ganolfan yma, ac fe ddylai gymuned gyfan fod yn falch o'r etifeddiaeth y maen nhw wedi greu i'r miloedd sy'n gweld goblygiadau dinistriol canser.
"Rydym yn ddiolchgar hefyd i Lywodraeth Cymru am y £1.5 miliwn a gawsom tuag at y cynllun."
Pymthegfed
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths: "Mae dyluniad ysbrydoledig yr adeilad yma, a'r ffaith y gall cleifion a'u teuluoedd alw heibio i sgwrsio gyda staff proffesiynol pryd bynnag y maen nhw'n teimlo'r angen am gymorth neu gefnogaeth, yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau cymaint o bobl."
Y ganolfan newydd fydd y pymthegfed i elusen Maggie's ei hagor, a hynny 15 mlynedd ers ei sefydlu gan iddyn nhw agor y ganolfan gyntaf yng Nghaeredin ym 1996.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Medi 2011