Dadl am arian yn poethi
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddadl yn poethi rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ynglŷn â'r arian sy'n cael ei roi i Gymru gan y Trysorlys.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £22 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i ddatganiad diweddar y Canghellor.
Ond dywed Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei bod yn ymddangos fod yr Alban yn gwneud yn well na Chymru.
Yn ôl ffynonellau Llywodraeth San Steffan mae gweinidogion yno wedi syrffedu ar "y cwyno cyson' o Fae Caerdydd.
Yn ogystal â'r £22 miliwn a gyhoeddwyd ddydd Iau, bydd yna £216m yn ychwanegol ar gael i wario ar isadeiladedd.
Fe fydd yr arian yn ychwanegol i'r gyllideb flynyddol o £14.5 biliwn rhwng nawr a 2015.
'Setliad da'
Ond ddydd Iau dywedodd Mr Jones mewn cynhadledd newyddion fod yr Alban yn cael mwy, er gwaethaf toriadau i feysydd fel yr heddlu sydd wedi eu datganoli i'r Alban.
Roedd o yn feirniadol o Lywodraeth San Steffan am gymryd wyth diwrnod cyn datgelu effeithiau datganiad y Canghellor.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fod Cymru yn cael setliad da.
Roedd hi o'r farn fod cyfyngu codiadau cyflog yn y sector gyhoeddus i 1% yn "galed ond yn deg."
"Mae hwn yn newyddion positif ac rwy'n croesawu'r arian ychwanegol y bydd llywodraeth Cymru yn ei dderbyn o ganlyniad i'r hyn a gyhoeddwyd gan y Canghellor," meddai.
Yn ôl un ffynhonnell o Whitehall roeddynt "wedi syrffedu gyda Phrif Weinidog Cymru a'i weinidogion am gwyno'n gyson nad oes ganddynt ddigon o arian nac o rymoedd.
"Mae ganddynt yr arian - mae yn £15 biliwn i'w wario. Mae'n hen bryd i'r Prif Weinidog roi'r gorau i ymddwyn fel aelod o'r wrthblaid, a dangos mwy o arweiniad."
Dywedodd fod y fformiwla sy'n penderfynu sut i ddosbarthu arian i'r llywodraethau datganoledig wedi ei ddefnyddio yn yr un modd ag fel arfer - ac yn union fel y cafodd ei ddefnyddio gan y llywodraeth flaenorol.