Y Blaid Lafur ddim yn gweld chwalfa isetholiad fel 'blip' - Carwyn Jones

Dywedodd yr Arglwydd Carwyn Jones ei fod yn amlwg "fod y Blaid Lafur ddim yn boblogaidd ar hyn o bryd"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu sefyllfa "anodd iawn" wedi'r golled yn isetholiad Caerffili.
Mae Caerffili wedi bod yn gadarnle i'r blaid ers dros ganrif, ond mae'r cwymp yn eu pleidlais wedi bod yn syfrdanol.
Roedden nhw'n drydydd - tu ôl i Blaid Cymru yn gyntaf a reform yn ail - gyda dim ond 11% o'r bleidlais.
Bydd dipyn o lyfu clwyfau i'r Blaid Lafur nawr, ac mae cyfarfod arbennig o'r grŵp yn y Senedd fore Gwener i drafod y canlyniad.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn amlwg "fod y Blaid Lafur ddim yn boblogaidd ar hyn o bryd" a bod "gwaith i'w wneud".
- Cyhoeddwyd17 munud yn ôl
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
"Mae'n wir i ddweud fod y Blaid Lafur ddim yn boblogaidd ar hyn o bryd - mae hynny'n amlwg i unrhyw un sy'n darllen y polau barn," meddai.
"Ma' fe'n anodd dros ben, nid dim ond yng Nghymru ond ar draws y DU, ac mae 'na waith i'w wneud.
"Ni'n ymwybodol o hynny, does neb yn dweud 'just blip yw hwn, does dim isie pryderu amdana fe' - na, nid fel 'na ni'n meddwl."

Am tua 02:15 fore Gwener, cafodd yr ymgeiswyr eu galw i'r llwyfan. Gyda mwyafrif o bron i 4,000, Lindsay Whittle o Blaid Cymru gafodd ei ethol
Dywedodd yr Arglwydd Jones fod rhaid i'r blaid "edrych ar beth oedd y broblem" ac "ailadeiladu erbyn mis Mai".
Dylai'r blaid bwysleisio'r manteision o gael llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yng Nghaerdydd, meddai, ond bod angen "dangos mwy o'r bartneriaeth 'na mewn grym".
Gwrthododd yr Arglwydd Jones y syniad bod y Blaid Lafur wedi cymryd eu cefnogaeth yng Nghymru yn ganiataol.

Dim ond 11% o'r bleidlais a gafodd yr ymgeisydd Llafur, Richard Tunnicliffe, yn yr isetholiad
Wrth ystyried y rhesymau tu ôl i'r golled yng Nghaerffili, dywedodd Carwyn Jones fod "y lwfans tanwydd yn gamgymeriad yn y ffordd gafodd hwnna ei wneud".
Dywedodd fod y polau piniwn a roddodd Plaid Cymru a Reform ar y blaen hefyd wedi bod yn ffactor, gyda phobl yn pleidleisio Plaid i gadw Reform allan.
Ychwanegodd bod "lot o waith i'w wneud" pan mae'n dod i siapio'r naratif gwleidyddol gyda'r blaid yn San Steffan ac i "gael y neges drosodd".
Cytunodd bod mynydd i'w ddringo i'r blaid ond dywedodd bod "cyfle i ni nawr wrth weithio gyda'n gilydd yng Nghaerdydd a San Steffan i droi pethe rownd".
"Mae'n mynd i fod yn anoddach ym mis Mai nawr, ond mae hyder 'da fi bod Eluned a Keir [Starmer] yn gallu newid pethe erbyn yr haf," meddai.

Siaradodd Ms Morgan â'r Prif Weinidog Keir Starmer fore Gwener, a dywedodd y bydd hi'n gofyn am fwy gan ei lywodraeth
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod yr isetholiad wedi ei gynnal yn yr "amgylchiadau anoddaf", gan ychwanegu bod y blaid wedi clywed rhwystredigaethau pobl "ar garreg y drws yng Nghaerffili nad yw'r angen i deimlo newid ym mywydau pobl wedi bod yn ddigon cyflym".
Dywedodd bod Keir Starmer yn deall "fod ganddo gyfrifoldeb i helpu ni yma yng Nghymru" a bod "gwersi difrifol i'w dysgu ar bob lefel y llywodraeth".
Ychwanegodd na fyddai hi'n sefyll i lawr wedi'r canlyniad yng Nghaerffili , gan ddweud fod ganddi "ormod o waith i wneud".
Siaradodd Ms Morgan â'r Prif Weinidog Keir Starmer fore Gwener, a dywedodd y bydd hi'n gofyn am fwy gan ei lywodraeth.
Richard Wyn Jones yn trafod yr isetholiad ar bodlediad Gwleidydda
"Dyma'r canlyniad isetholiad mwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers dros hanner can mlynedd a mwy," meddai'r Athro Richard Wyn Jones ar bodlediad Gwleidydda.
"Mae'n dangos fod Rhun ap Iorwerth mewn sefyllfa gref iawn i fod yn Brif Weinidog Cymru y flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd fod y canlyniad yn "ergyd" i'r blaid Reform gan eu bod wedi "rhoi llawer iawn o adnoddau i mewn, wedi disgwyl ennill a chynnal momentwm".
Disgrifiodd y canlyniad fel un "cyfan gwbl drychinebus" i'r Blaid Lafur a bod eu "canrif o ddominyddiaeth yn dod i ben mewn ffordd digon llipa".
'Llafur ddim wedi colli fel hyn o'r blaen'
Dydy Llafur ddim wedi colli fel hyn o'r blaen ac mae'n rhaid i ni gymryd dipyn o sylw o hynny.
Dwi'm yn meddwl oedd unrhyw un wedi eu synnu bod y Blaid Lafur wedi colli'r sedd yma.
Mi oedd 'na aelodau o'r blaid yn dweud hynny cyn i'r blychau pleidleisio gau, ond maen nhw wedi colli o gymaint, maen nhw wedi colli gafael ar sedd sydd wedi bod yn gadarnle iddyn nhw ers mor hir.
Y cwestiwn rŵan ydy, ydy hyn yn newid parhaol neu yn rhyw blip bach i'r Blaid Lafur?
Ydy hwn yn un o'r etholiadau anhygoel 'na sydd yn geiliog gwynt, sy'n dangos sut mae'r hinsawdd wleidyddol yn newid?
Canlyniad y Ceidwadwyr yn 'fwy o gywilydd'
Wrth ddadansoddi'r canlyniadau ar Dros Frecwast, dywedodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, fod angen i ni "beidio ag anghofio" am y canlyniad i'r blaid Geidwadol.
"Mae'r Ceidwadwyr wedi dod yn ail yng Nghaerffili nifer o weithiau," meddai.
"Ma' tref Caerffili ei hun yn lle eithaf llewyrchus, dosbarth canol, pobl yn cymudo i Gaerdydd.
"Ma' canlyniad y Ceidwadwyr o 2%, fysen i'n awgrymu hyd yn oed yn fwy o gywilydd arnyn nhw nac yw'r bleidlais Lafur."
Ond wrth sôn am hanes Llafur yng Nghaerffili, dywedodd fod "dim canlyniad tebyg i hwn wedi bod yng Nghaerffili ers i'r un ohonom ni ddod i'r byd 'ma".
Fe esboniodd fod canlyniad Reform UK yn "ddigon parchus o'i gymharu â'r hyn mae Reform a'u rhagflaenwyr nhw, Plaid Brexit a UKIP, wedi cael yng Nghaerffili yn y gorffennol."
Ond dywedodd fod "Reform wirioneddol yn credu bo' nhw am ennill ddoe, does dim dwywaith am hynny".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.