Atgyweirio cofadail y Barri
- Cyhoeddwyd
Mae un o hoff dirnodau'r Barri ar fin diflannu o'i safle o flaen y Swyddfeydd Dinesig yn Heol Holton am fod angen cryn dipyn o waith atgyweirio arno.
Bydd cofadail y Llynges Fasnachol yn cael ei hadfer i'w hen ogoniant a'i diogelu rhag tywydd garw.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi comisiynu cwmni arbenigol i adfer yr adeilad 15 oed yma a luniwyd o garreg Portland.
Bydd y gwaith o ddatgymalu'r gofadail, a fu'n ganolbwynt seremoni goffa canmlwyddiant Sul y Cofio'n ddiweddar, yn cychwyn ddydd Llun.
Saer maen
Bydd contractwr arbennig yn tynnu'r cerflun yn ddarnau, er mwyn ei gario ar long i iard saer maen yng Nghaerdydd ar gyfer ei sychu.
Bydd y craidd concrit a fydd wedi'i adael ar ôl o flaen y swyddfeydd dinesig yn cael ei amgylchynu â ffens er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
Rhyw £47,000 fydd cost y gwaith, heb gynnwys ffioedd, ac y mae'n debyg o gymryd tuag 20 wythnos i'w gwblhau.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gordon Kemp: "Rwy'n falch bod modd i ni anfon y gofadail i ffwrdd i'w glanhau a'i hatgyweirio, o'r diwedd, er mwyn cael ei hadfer i'w chyflwr gwreiddiol.
"Mae'n bwysig i ni wneud y gwaith hwn er anrhydedd i fasnachlongwyr y Fro sy'n destun y gofadail."
Cwmni gwaith saer maen o Gaerdydd o'r enw Dawson Stone Masonry a fydd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio.
Bachau metel
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Dave Dawson: "Caiff ei chludo i'n hiard, ei dihalltu ac yna ei hadfer.
"Bwriadwn gyflwyno ambell i nodwedd wrthdywydd hefyd er mwyn ei harbed rhag hindreulio.
"Bu'n darged digon o dywydd garw'n ddiweddar heb weld fawr o heulwen.
"Mae calchfaen yn ddigon cadarn ar ôl sychu, ond bu'r gofadail hon yn cadw lleithder, ac mae llawer o halen wedi crynhoi yn sgil hynny.
"Pan ddown yn ôl â hi, dylai fod yn ddigon cadarn i wrthsefyll pob tywydd."
Byddwn yn addasu'r gofadail ryw ychydig er mwyn i'r glaw allu llifo oddi arni'n haws, a bydd ganddi fachau metel hefyd ar gyfer dodi torchau.
Rhyfeloedd
Dywedodd y pensaer cadwraeth, Martin Killick, a gynlluniodd y nodweddion gwrthdywydd: "Bu'n methu â cholli dŵr, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae wedi'i chynllunio.
"Bu'r dŵr yn cronni ar y gwahanol silffoedd heb allu llifo oddi ar y gofadail.
"Pan fydd wedi gorffen, bydd yn anodd gweld y gwahaniaeth."
Bydd placiau dur gloyw newydd ar gyfer enwau masnachlongwyr o'r Fro a laddwyd mewn rhyfeloedd, a bydd y rhestr yn cael ei diweddaru er mwyn cynnwys tua 100 o bobl ychwanegol.
Dywedodd Jim Greenway, 78 oed sy'n gadeirydd Cymdeithas Masnachlongwyr y Barri: "Rydym yn deall bod y gwaith hwn yn cael ei wneud a'i fod erbyn hyn yn rhan o raglen cynnal a chadw adeiladau'r cyngor.
"Rydym yn falch ein bod yn cael gwybod beth yn union sy'n digwydd, ac yn fodlon ar yr hyn a ddywedir wrthym."
Bydd ffens yn cael ei chodi o amgylch safle'r gofadail er mwyn diogelu'r cyhoedd a gwarchod y craidd concrit.
Roedd swyddogion y cyngor yn awyddus i beidio â symud y gofadail o'i safle o flaen swyddfeydd Cyngor Bro Morgannwg nes i'r seremoni Sul y Cofio gael ei chynnal.