Prosiect 'yn atal dau benllanw'
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect amddiffyn arfordirol gwerth £12 miliwn yng Ngheredigion sydd ar fin dod i ben yn helpu rhwystro llifogydd, yn ôl pobl leol.
Y gobaith yw bod y prosiect yn Borth yn lleihau risg llifogydd ac erydu arfordirol yn yr ardal ger Aberystwyth ar gyfer y ganrif nesaf.
Mae dwy greigres artiffisial wedi eu gosod 300 metr i mewn i'r môr hefyd, gobeithio, yn denu syrffwyr i'r traeth sy'n ymestyn am bedair milltir.
Ym mis Ebrill eleni cafodd miloedd o dunelli o greigiau eu cludo o Norwy i godi'r creigresi.
Dau benllanw
Mae trigolion y pentref wedi dweud bod yr amddiffynfeydd wedi rhwystro dau benllanw rhag llifo i'w tai.
Dywedodd Anthony Morris, sy'n byw ger y traeth, ei fod yn cofio llifogydd 1976 ddifrododd nifer o dai.
"Mae dau benllanw mawr wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf.
"Heb yr amddiffynfeydd fe fyddai'r môr wedi llifo i dir pobl."
Roedd amddiffynfeydd wedi eu codi yn 1960 ac mae'r rhai newydd yn gwarchod 330 o adeiladau, gan gynnwys 40 o adeiladau masnachol, Rheilffordd y Cambrian a ffordd y B4353.