Pont y Borth yn ailagor llai na mis ar ôl cau yn ddirybudd

Pont y Borth
  • Cyhoeddwyd

Mae Pont y Borth - sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr - wedi ailagor yn llawn.

Caeodd y bont yn ddirybudd ddechrau'r mis yn dilyn cyngor brys gan arbenigwyr diogelwch.

Roedd y bont wedi ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr - ond roedd rhai cyfyngiadau pwysau yn parhau mewn grym.

Roedd cerbydau hyd at 7.5 o dunelli yn cael teithio ar y bont unwaith eto o 07:00 ddydd Gwener, ar ôl i'r peirianwyr gadarnhau ei bod hi'n ddiogel i gael gwared ar y cyfyngiadau pwysau blaenorol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd archwiliadau o'r gwaith dros dro yn cael ei gynnal bob dydd Mercher am 10:00 gyda'r traffig yn cael ei reoli gan arwyddion bryd hynny.

Bydd gwaith i sicrhau datrysiad parhaol i'r mater yn digwydd yn yr wythnosau nesaf, tra bod disgwyl i fwy o fanylion am y cynlluniau hynny i gael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae'r llywodraeth wedi ymddiheuro am unrhyw effaith y mae'r cau wedi ei gael ar y gymuned leol, gan ddiolch am eu hamynedd a'u cydweithrediad.