Dyn wedi lladd ei wraig, eu ci ac yna ei hun - cwest

Trowbridge
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Stephen a Christine Jefferies eu canfod wedi marw yn eu cartref ar 5 Hydref 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod dyn o Gaerdydd wedi saethu ei wraig a'u ci yn farw, cyn lladd ei hun.

Cafodd Stephen Jefferies, 74, ei wraig Christine, 72, a'u ci May, eu canfod yn farw yn eu cartref ym Morfa Crescent yn ardal Trowbridge y brifddinas fis Hydref y llynedd.

Yn ôl Crwner Canol De Cymru, Patricia Morgan, mae'n debygol bod iechyd meddwl Mr Jefferies yn dirywio adeg y marwolaethau.

Fe gofnododd bod Ms Jefferies wedi ei lladd yn anghyfreithlon, a bod ei gŵr wedi lladd ei hun.

Eu merch, Martine Stecker, wnaeth eu darganfod yn dilyn galwad gan gymydog yn mynegi pryder amdanynt.

Dywedodd wrth Lys Crwner Pontypridd iddi gredu'n wreiddiol mai cysgu oedd ei mam pan y gwelodd hi'n gorwedd â'i hwyneb i lawr yn eu gwely.

Ni welodd unrhyw waed yn yr ystafell, meddai, ac roedd hi'n ceisio dirnad "pam ei bod mor llwyd" cyn "dod at fy hun" a dechrau sylweddoli bod ei thad, oedd yn berchen ar wn, wedi gwneud rhywbeth difrifol.

Dywedodd Ms Stecker na sylwodd ar ei thad yn y tŷ, "ond ro'n i'n synhwyro ei fod yna".

Gadawodd yr eiddo a dweud wrth gymydog: "Mae fy rhieni wedi cael eu saethu."

Dywedodd wrth y crwner na allai egluro sut y gwyddai mai ei thad oedd yn gyfrifol, gan ychwanegu: "Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi ei gymell yr wythnos honno."

Roedd ei rhieni, meddai, â dyledion o £35,000 ac roedd ei thad wedi bod eisiau newid ei ewyllys yn y misoedd blaenorol, er mwyn cynnwys hi a'i brawd.

Roedd Mr Jefferies wedi cael triniaeth am iselder, ac roedd ei wraig ar feddyginiaeth poen cronig.

Yn ôl eu merch, roedd Ms Jefferies yn paratoi ar gyfer y Nadolig.

"Dydw i ddim yn credu bod mam ag unrhyw ran yn hun," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn amau bod cyfuniad o ffactorau wedi poeni ei thad, gan gynnwys salwch teuluol a galar, dyled, a "bwlio" cyn iddo ymddeol yn gynnar.

'Dyw'r gŵr ddim yn hollol iawn heno'

Clywodd y cwest bod gan Stephen Jefferies sawl gwn ar gyfer saethu colomennod clai a hela ffesantod, a'i fod yn eu cadw yn hen ystafell wely eu merch.

Dywedodd yr arbenigwr fforensig Andrew Huxtable bod Christine Jefferies "yn gorwedd dan gwilt gyda'i breichiau wedi croesi" a bod anaf saethu o agos i arlais (temple) dde'r pen.

Roedd Mr Jefferies ar ochr arall y gwely ac roedd yna reiffl bolltau, cetris (cartridges) wedi eu defnyddio, ac un fwled byw yn yr ystafell.

Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad i'r achos, y Ditectif Brif Arolygydd Leanne Rees, bod dim tystiolaeth bod Mr Jefferies yn ddyn treisgar.

Doedd heb adael nodyn, meddai, ond roedd sawl cofnod "perthnasol" mewn dyddiaduron ddyddiau ynghynt mewn ysgrifen mwy eratig na'r arfer.

Roedd un, gan Ms Jefferies, yn nodi "dyw'r gŵr ddim yn hollol iawn heno".

Pynciau cysylltiedig