Chaz yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2011
- Cyhoeddwyd
Y gyrrwr beic modur Chaz Davies yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2011 wedi pleidlais gyhoeddus.
Gwnaed y cyhoeddiad mewn seremoni wobrwyo yn Stadiwm Liberty, Abertawe, nos Lun.
Yn ystod 2011 fe wnaeth Chaz o Drefyclo ym Mhowys ddangos ei ddoniau wrth ennill Pencampwriaeth y Byd Supersport.
Yn 24 oed, ef yw'r Cymro cyntaf i ennill teitl dosbarth Superbike y byd.
Enillodd goron y bencampwriaeth gyfan yn y gyfres 12 ras, yn ras olaf ond un y tymor yn Magny Cours, Ffrainc.
Mae'r pencampwr Supersport hefyd yn un o gyn enillwyr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru.
Fe gaeodd y bleidlais am 6pm nos Sadwrn, Rhagfyr 10.
Gwobrau eraill
Roedd yna bump o enwau ar y rhestr fer - Chaz Davies, y bocsiwr Nathan Cleverly, yr athletwr Dai Greene, yr athletwraig triathalon Helen Jenkins, a'r athletwr (gwaywffon) Nathan Stephens.
Gwobrwywyd tîm y flwyddyn yn y digwyddiad nos Lun hefyd, a rhoddwyd gwobr Cyflawniad Oes a gwobrau Chwaraewr Iau a Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn Carwyn James.
Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a ddewiswyd fel Tîm y Flwyddyn. Dan Brendan Rodgers, Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, a dychwelyd i'r lefel uchaf eleni dim ond wyth mlynedd ar ôl osgoi disgyn o'r Gynghrair Bêl-droed.
Mae Anne Ellis OBE, enillydd y Wobr Cyflawniad Oes yn un o hoelion wyth y byd hoci i fenywod. Mae Ellis, o Abertawe, wedi ymwneud â chwaraeon ar y lefel uchaf ers bron i 50 mlynedd, fel chwaraewr hoci, hyfforddwr a gweinyddwr. Mae'n dal i helpu yn ei chlwb lleol bob penwythnos.
Rhys Pugh, y golffiwr 17 oed o Bontypridd, enillodd wobr Chwaraewr Iau'r Flwyddyn.
Mae wedi ennill Pencampwriaeth Amatur Iwerddon ac ennill pob un o'i dair gêm yng ngemau buddugoliaethus Cwpan Walker eleni. Mae bellach yn astudio ym Mhrifysgol East Tennessee State.
Fe wnaeth y gymnast Angel Romaeo ennill medal aur, arian ac efydd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Ynys Manaw fis Medi. Hi a ddewiswyd yn Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn eleni.