Leanne Wood yn ymuno â'r ras i arwain Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad Canol De Cymru, Leanne Wood, wedi dweud y bydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae Elin Jones a Simon Thomas wedi cyhoeddi eu bwriad i sefyll ac mae Dafydd Elis Thomas wedi dweud y byddai'n ymgeisio os yw ei blaid yn ei enwebu yn Nwyfor Meirionnydd.
Addawodd Ms Wood y byddai'n canolbwyntio ar yr economi er mwyn symud Cymru ymlaen at "wir annibyniaeth".
Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wedi dweud ei bod yn ei chefnogi.
Ers 2003 mae Ms Wood wedi bod yn Aelod Cynulliad.
'Ymgyrchwraig'
"Mae fy ngwleidyddiaeth i wedi cael ei siapio gan yr ardal ble ces i fy magu a'r bobl o fy nghwmpas i.
"Rydw i wedi bod yn ymgyrchwraig erioed, ymgyrchwraig a drodd yn wleidydd er mwyn brwydro dros yr un achosion, a dyna pam rydw i'n rhoi fy enw ymlaen i fod yn arweinydd y blaid rydw i wedi bod yn aelod ohoni ers 20 mlynedd, fy holl fywyd fel oedolyn.
"Mae fy mhrofiad uniongyrchol o ddirwasgiad a'i effaith yn ystod yr wythdegau yn fy ngwneud i'n benderfynol o sicrhau nad ydyn ni'n colli cenhedlaeth arall eto oherwydd diweithdra ymhlith yr ifanc.
"Mae mynd i'r afael â'r heriau economaidd hynny yn rhywbeth sy'n mynd law yn llaw gyda'n taith ni at annibyniaeth."
Dywedodd fod y blaid yn wynebu amser cyffrous.
'Gweledigaeth'
"Mae gen i weledigaeth eglur ynghylch beth ddylai ein cyfeiriad fod yn y dyfodol - adeiladu'r achos dros wir annibyniaeth.
"Ar hyd y blynyddoedd dydyn ni ddim wedi bod yn ddigon clir o ran beth yw annibyniaeth i ni, pam rydyn ni am ei sicrhau, na sut y bydden ni'n cyrraedd y nod. Hwn yw'r amser i newid hynny."
Fydd yr enwebiadau ddim yn agor tan Ionawr 3 ac yn cau ar Ionawr 26.
Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011