Mari Grug: 'Fi jyst eisiau byw mor hir â phosib'

Mae Mari Grug yn cyflwyno Heno a Prynhawn Da ar S4C, ac i'w chlywed ar Bore Cothi ar Radio Cymru yn achlysurol
- Cyhoeddwyd
Mae Mari Grug wedi byw cyfnod hir o'i bywyd o flaen camera yn ei rôl fel un o gyflwynwyr mwyaf adnabyddus Cymru.
Ond mewn rhaglen newydd mae hi'n caniatáu'r camera tu ôl i'r llenni yn ystod un o gyfnodau mwyaf anodd ei brwydr gyda chanser.
Bwriad y rhaglen, yn ôl Mari, ydy profi bod modd bod "yn fam, yn wraig, yn ffrind, yn gyflwynydd" sydd hefyd yn "cario 'mlaen" gyda chanser y fron.
Yn Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, mae'r fam i dri yn dweud bod angen i ni gyd ailystyried sut ry'n ni'n deall gofal lliniarol, ac na ddylid ei ystyried fel "gofal diwedd oes".
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2024
Mae'r rhaglen yn dilyn Mari, gyda'i gŵr Gareth a'u plant, wrth iddyn nhw ddysgu yn 2024 bod y canser yn ôl, a hithau yn wynebu cwrs pellach o gemotherapi a llawdriniaeth.
"Fi'n benderfynol o ddod i'r gwaith a chario 'mlaen," meddai Mari, wrth gael gwybod bod ei sganiau diweddaraf yn dangos problem.
'Pris bach yw cael gwared ar y fron'
Cafodd Mari, sy'n wyneb cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da, ddiagnosis o ganser y fron yn 38 oed yn 2023.
Mae'n esbonio yn y rhaglen bod cael ei math hi o ganser fel gollwng pot o glitter ar draws dy gar, ac wedyn ceisio glanhau'r cyfan.
"Mewn cyfnod byddwch chi dal yn ffeindio gronynnau bach o glitter mewn mannau chi ddim yn meddwl," meddai.
"Fi'n credu dyna'r canser sydd gyda fi."
Mae gan y cyflwynydd ganser metastasis, sy'n golygu bod y canser bellach wedi lledu i'w nodau lymff a'i hafu o'r fron.

Er y cyfnodau heriol, mae'r rhaglen hefyd yn dangos adegau hapus, fel parti pen-blwydd Mari yn 40 oed
Wrth ffilmio ei phrofiad hi o driniaeth, mae Mari a'i theulu hefyd yn cael gwybod bod ei chwaer fach, Lisa, yn byw gyda chanser y fron.
Dechreuodd Mari gwrs arall o gemotherapi ym mis Hydref 2024, gyda'r camera yn ei dilyn wrth iddi fynychu apwyntiadau ac ymdopi gyda symptomau megis blinder difrifol a heriau gyda'i chroen.
Ac yna wedi'r Nadolig gyda'r plant a misoedd o'r driniaeth, mae Mari yn dysgu taw'r cynllun ydy cael gwared ar ei bron.
"O'n nhw eisiau cynnig e i fi ar 27 Mai. Dwi 'di dweud 'na' achos dwi'n beirniadu yn yr Eisteddfod," meddai Mari wrth y camera yn chwerthin.
Er iddi brofi "teimladau cymysg" am y llawdriniaeth, mae Mari yn bositif am ei hadferiad a'i gofal yn y rhaglen.
"Pris bach yw cael gwared ar y fron."
Gofal lliniarol yn cael ei 'gamddeall'
"Pan glywais fod y canser wedi lledu, dywedwyd wrtha i 'bod dim lot 'ni'n gallu neud, a jest gofal lliniarol (palliative care) oedd ar gael. Roedd hynny'n ergyd," meddai.
Dywedodd fod y term hwnnw - gofal lliniarol - yn un sy'n cael ei "gamddeall gan lawer, ac yn gallu peri sioc ddiangen i gleifion".
"Mae pobl yn meddwl amdano fel gofal diwedd oes," meddai.
"Ond mewn gwirionedd mae'r math yma o ofal wedi datblygu'n fawr.
"Efallai bod angen newid y derminoleg, oherwydd pan fydd rhywun yn clywed y gair hwnnw ar y dechrau, mae'n ofidus iawn."

Dywedodd Mari fod meddwl am beidio bod yno i'w theulu yn torri ei chalon
Un o'r themâu sy'n codi yn y rhaglen yw'r cwestiynau sydd gan Mari am ei dyfodol, a sut fydd hynny yn siapio ei theulu ifanc.
"Mae meddwl am ddim bod 'ma iddyn nhw yn torri 'nghalon i. Dyna sy'n neud e'n anodd," meddai.
"Sai'n ofn marw, sai'n ofn beth sydd o'm mlaen i, ond ma' jyst meddwl amdanyn nhw yn gorfod mynd trwy fywyd hebdda i."
Er y cyfnodau tywyll a heriol, mae Mari a'i theulu yn blaenoriaethu dathlu a mwynhau lle'n bosib, gan gynnwys parti ar gyfer ei phen-blwydd yn 40 oed, a thrip i sgïo.
"Mae byw gyda rhywbeth fel hyn yn 'neud i ti feddwl 'wel ie, mae rhaid dathlu," meddai.
'Posib byw bywyd llawn gyda chanser'
Yn y rhaglen mae Mari yn cydnabod bod pobl sydd yn byw gyda chanser y fron metastasis yn tueddu i fyw am ryw bum mlynedd wedi'r diagnosis.
"Mae e'n ddiawl. Fi jyst eisiau byw mor hir â phosib," meddai.
"Mae posibilrwydd o fyw bywyd llawn gyda fe. Fi 'di profi hynny."
Bydd Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, ar S4C nos Sul 26 Hydref am 21:00, a bydd modd gwylio hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.