Leanne Wood yn ystyried arwain Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood ACFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n "ystyried y sefyllfa"

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Leanne Wood wedi datgan ei bod yn ystyried sefyll am arweinyddiaeth y blaid.

Dywedodd fod aelodau ifanc o Blaid Cymru wedi galw arni i sefyll drwy ddefnyddio'r we.

Ymddangosodd fideo yn annog Ms Wood i sefyll ar wefan You Tube yn ddiweddar.

Dywedodd y gwleidydd y byddai'n aros am gasgliadau arolwg mewnol y blaid cyn penderfynu a fydd hi'n sefyll.

"Rwy'n ystyried y sefyllfa ynglŷn â'r arweinyddiaeth," meddai Ms Wood wrth raglen BBC Cymru, AMPM.

"Rydw i'n gwybod fod nifer o aelodau ifanc y blaid yn ymgyrchu ar Facebook, Twitter a You tube i'm darbwyllo i sefyll."

Lansiodd Plaid Cymru arolwg mewnol ynghylch dyfodol y blaid wedi etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

'Cyfeiriad radical'

Dywedodd yr aelod sy'n cynrychioli Canol De Cymru y byddai'n aros tan ddiwedd yr arolwg cyn penderfynu a fydd hi'n sefyll ai peidio.

Ychwanegodd fod rhai o aelodau'r blaid "yn barod i symud i gyfeiriad radical".

"Rwy'n credu bod gwleidyddiaeth ein hoes yn galw am hyn," meddai.

Dywedodd ei fod yn "amser cyffrous" i'r blaid a bod eu cefnogwyr yn "gweld cyfle mawr i Gymru o ran ehangu trefniant datganoli".

Cyhoeddodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, y byddai'n yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth y flwyddyn nesaf yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Ym mis Medi cyhoeddodd Elin Jones, AC Ceredigion, y bydd hi'n sefyll ar gyfer olynu Ieuan Wyn Jones.

Roedd 'na gryn ddisgwyl y byddai'r cyn-Weinidog Materion Gwledig yn y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Ac mae Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, wedi dweud bod ganddo ddiddordeb yn y swydd.

Fe fydd yr enwebiadau ddim yn agor yn swyddogol tan Ionawr 3 ac fe fyddan nhw'n cau ar Ionawr 26.

Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol