Yr etholiad yng Nghaerffili all gael effaith ar Gymru gyfan

CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid am y tro cyntaf, mae Caerffili yn llwyfan ar gyfer isetholiad arwyddocaol

  • Cyhoeddwyd

Ddydd Iau fe fydd etholwyr Caerffili yn bwrw pleidlais mewn isetholiad arwyddocaol iawn.

Ambell waith, gall isetholiad gael effaith ar wleidyddiaeth tu hwnt i ffiniau'r ardal leol.

Mae wedi digwydd o'r blaen yng Nghaerffili. Yn 1921 enillodd Morgan Jones isetholiad yma.

Fe oedd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf i gael ei ethol i San Steffan yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wedyn yn 1968, roedd 'na ganlyniad ysgytwol pan dorrodd Plaid Cymru fwyafrif Llafur o 21,000 pleidlais i lai na 2,000.

Llafur wnaeth ennill y ddau – fel ymhob etholiad seneddol yng Nghaerffili ers 1918.

Yn etholiad diwethaf Senedd Cymru yn 2021 roedd gan Lafur fwyafrif o fwy na 5,000.

Ond y tro hwn mae dwy blaid arall – Reform UK a Phlaid Cymru – yn hyderus eu bod nhw mewn sefyllfa dda i herio Llafur.

Ceiliog gwynt?

Bydd 'na etholiad llawn i'r Senedd flwyddyn nesaf, sy'n gwneud isetholiad Caerffili cymaint yn fwy diddorol.

Mae golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, yn dweud y gall canlyniadau rhai isetholiadau fod yn "rhyfeddol... ond pan mae etholiad nesaf San Steffan yn dod mae popeth yn mynd yn ôl i fel oedd e o'r blaen".

Mae rhai eraill yn geiliog gwynt, sy'n dangos bod yr hinsawdd wleidyddol wedi newid.

Os ydy Llafur yn gwneud yn wael yng Nghaerffili - un o'i chadarnleoedd yng nghymoedd y de - beth fydd hynny'n ei olygu wrth i fis Mai nesaf agosáu?

Vaughan Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Vaughan Roderick, fe allai'r isetholiad fod yn gychwyn ar "ail-lunio'r tirwedd gwleidyddol"

"Mi allai fod yn gychwyn ar broses y'n ni ddim wedi gweld yng Nghymru ers dros ganrif, sef ail-lunio'r tirwedd gwleidyddol," meddai Vaughan.

"Y tro diwethaf 'naeth hynny ddigwydd oedd yn 1922 pan 'naeth Llafur gymryd drosodd o'r Rhyddfrydwyr fel prif blaid Cymru, ac mi allai na fod newid cyffelyb ar droed nawr.

"Dyw e ddim yn anorfod wrth gwrs, ond yn sicr mi fydd Llafur yn poeni am y peth."

'Dadrithiad' gyda gwleidyddiaeth

Gyda chymaint yn y fantol, does rhyfedd bod ymgyrchu brwd wedi bod.

Ond dyw gwleidyddiaeth ddim mor amlwg na mor fywiog ag oedd e'n arfer bod, meddai'r hanesydd Elin Jones, sydd wedi byw yn yr ardal gydol ei hoes.

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae mwy o lawer o bethau Calan Gaeaf ar ffenestri na sydd posteri o unrhyw blaid," meddai Elin Jones

"Mae rhyw ddadrithiad rhyfedd wedi digwydd gyda'r Blaid Lafur - gyda gwleidyddiaeth yn gyffredinol - ond gyda'r Blaid Lafur yn un o'i chanolfannau hi," meddai.

"Un o'r llefydd 'na o'ch chi'n teimlo byddai hi byth yn newid rhyw lawer, a dwi wedi gweld hi'n newid yn sydyn iawn.

"Mae mwy o lawer o bethau Calan Gaeaf ar ffenestri na sydd posteri o unrhyw blaid, a dwi'n meddwl bod hynny'n adlewyrchu'r dadrithiad.

"Dwi'n cofio isetholiad 1968 yng Nghaerffili a dwi'n cofio'r bwrlwm a phob un wedi cyffroi gan y peth."

Ychwanegodd: "Mae'r isetholiad yma, wi'n meddwl, yn mynd i ddangos bod y Blaid Lafur ar ôl canrif wedi colli ei gafael hi ar yr ardal hon, a hwyrach ei gafael hi ar Gymru gyfan."

Y gyllideb yn broblem bosib

Hyd yn oed cyn marwolaeth sydyn Hefin David, cyn-aelod Caerffili, doedd gan Lafur ddim mwyafrif ym Mae Caerdydd.

I basio cyllideb y llynedd, er enghraifft, roedd yn rhaid iddyn nhw ddod i gytundeb gyda'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds.

Fydd ei phleidlais hi ddim yn ddigon i gymeradwyo'r gyllideb nesaf - sydd ger bron y Senedd nawr - os ydy Llafur yn colli Caerffili.

Byddai ennill Caerffili yn hwb mawr i unrhyw blaid cyn yr etholiad flwyddyn nesaf.

Ond mae dosbarthiad y seddi yn y Senedd nawr yn rheswm arall i ystyried yr isetholiad yma yn un hynod arwyddocaol.

Rhestr lawn yr ymgeiswyr

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig