'Dod â hud Ffair Y Bala yn ôl': Ydych chi'n cofio'r bwrlwm?

Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Stryd Fawr yn berwi gyda phobl yn Ffair Glamai 1952

  • Cyhoeddwyd

Roedd Ffair Y Bala yn arfer bod yn ddigwyddiad oedd yn denu torfeydd mawr o bobl yn flynyddol i'r dref i chwilio am fargen, i gymdeithasu ac i gael eu diddanu.

Ond dros y degawdau diwethaf, lleihau wnaeth nifer y stondinau ar y Stryd Fawr yn sylweddol - a gyda nhw, nifer yr ymwelwyr.

Mae fersiwn o Ffair Y Bala yn parhau i fodoli hyd heddiw, ond reidiau a pharc pleser sydd yno'n bennaf erbyn hyn.

Er mwyn "dod â'r hud a'r hwyl yn ôl", mae pwyllgor Canolfan Henblas wedi trefnu Gŵyl Ffair Y Bala eleni, i geisio adfywio'r traddodiad.

Bydd y dathliadau yn digwydd rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn yma - 23-25 Hydref.

Yno bydd cerddoriaeth fyw, digwyddiadau i blant, stondinau bwyd, Talwrn y Beirdd a hyd yn oed cystadleuaeth reslo braich.

Felly, er mwyn cael blas o hwyl yr ŵyl, wrth i griw geisio atgyfodi ysbryd yr hen ffair, dyma ychydig o atgofion yn edrych yn ôl ar Ffair Glamai Y Bala, o fis Mai 1952.

Ydych chi'n cofio rhai o'r cymeriadau yn lluniau'r ffotograffydd eiconig, Geoff Charles?

Gwenan o'r Bala, Rhian ac Ellen o Landrillo yn bwyta candi-fflos yn Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwenan o'r Bala a Rhian ac Ellen o Landrillo yn bwyta candi-fflos yn y ffair

Un sy'n cofio ffeiriau'r 1950au yn eu llawn anterth ydy Penri Jones, un o drigolion Y Parc ger Y Bala, a ddywedodd fod y dref ar yr adeg hynny yn "llawn dop".

"Roedd stondinau'r ddwy ochr i'r Stryd Fawr ar ei hyd, pobl llond y stryd a'r traffig yn gorfod gwasgu trwy'r dorfa," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ond wrth gwrs doedd na'm gymaint o draffig â sydd yno heddiw.

"Roedd y ffair yn mynd ymlaen tan yn hwyr - tan tua 22:00, 22:30 y nos."

Bechgyn yn gadael Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Criw o ddynion ifanc yn gadael adloniant y "ffair hwyl" ar y Grîn

Eglurodd Penri Jones fod "yna ffair hwyl ar y Grîn hefyd wrth gwrs, hefo rhyw merry-go-rounds a ballu - a fan hynny yn llawn dop hefyd".

"Roedd honno'n llawn goleuadau a chanu byddarol. Lot fawr o hwyl ac ambell i ffeit os oedd y cwrw'n siarad!

"Oedd o'n ddigon o hwyl - oedd o'n achlysur cymdeithasol - pawb yn tyrru i'r ffair i gael gweld ei gilydd, siarad a sgwrsio.

"Bydde rhai yn sgwrsio trwy'r pnawn ar ryw gornel yno!"

Tom Taylor, Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mr Harold Taylor o Tom Taylor and Sons, Wrecsam, yn gwerthu tŵls ar ei stondin. Bu'n rhedeg y busnes tan iddo ymddeol ym 1977

Eglurodd Mr Jones fod yr "hen ffair fis Mai - Ffair Glamai - yn arfer bod yn ffair gyflogi, ond y Ffair Ganol oedden ni'n galw hon fis Hydref".

"Ffair ganol tymor 'lly - dim gymaint yn cyflogi yn hon, ond roedd hi'n ffair bwysig i ffermwyr werthu stoc ynddi.

"Yn yr hen amser, dyma'r amser traddodiadol i ffermwyr werthu eu stoc gwartheg ac yn y blaen - wedi'u pesgi nhw trwy'r haf ac yna'u gwerthu nhw yn y ffair."

Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llestri "na thorrant byth" yn cael eu gwerthu gan Harry Cross ger gwesty'r Plas Coch, a banc HSBC erbyn heddiw

Byddai'r gwartheg yn cael eu pedoli ar y Grîn, meddai Penri Jones, "a chael eu cerdded wedyn i lawr i Amwythig a Henffordd" ac ardaloedd eraill i gael eu gwerthu.

"Roedd hynny cyn dyddiau trenau wrth gwrs - a ddo'th yn 1868, a'r cerdded gwartheg yn dechrau darfod yn ara' deg ar ôl hynny."

Dywedodd Mr Jones y byddai mwy o ffeiriau ers talwm, ond mai Ffair Glamai a'r Ffair Ganol oedd y ddwy draddodiadol yn Y Bala.

"Roedden nhw'n troi o amgylch byd amaeth - oedd yn bwysig iawn, iawn, s'dalwm."

Victor Barna, Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyn o'r enw Victor Barna yn dangos ei gynnyrch

Dywedodd Lowri Rees Roberts o bwyllgor Canolfan Henblas, fod Ffair Y Bala yn "arfer bod yn ddigwyddiad mawr yn ein calendr ni fel plant".

"Ond erbyn heddiw, does fawr ddim yn digwydd ac roeddwn i'n teimlo bod hynny'n bechod mawr.

"Gyda chymorth grant gan Gronfa Diwylliant Cyngor Gwynedd, mi rydym wedi mynd ati i drefnu ambell ddigwyddiad yn y dref i gyd-fynd â'r ffair, gan obeithio adfer ychydig o fwrlwm o amgylch y lle."

Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Torf yn edmygu'r ceffyl Wenlock Tyssul, yng ngofal Mr John D Lloyd, Llanynys

Casgliad o bobl mewn ocsiwn ar y stryd yn Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad o bobl mewn ocsiwn ar y stryd yn Ffair Glamai Y Bala, Mai 1952

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig