Sêl brenhinol newydd i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Frenhines wedi cymeradwyo a chyflwyno Sêl Cymru i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor.
Bydd y sêl ar ddeddfau'r Cynulliad, yn dangos bod y Frenhines wedi rhoi sêl bendith i fesurau.
Mae'r sêl - sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - yn sgil canlyniad y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad.
Gan nad oes gan Gymru arfbais frenhinol fe gafodd delwedd newydd ei chreu a'r Bathdy Brenhinol greodd y cynllun modern sy'n cynrychioli'r frenhines a Chymru.
'Symbolaidd'
Dywedodd Mr Jones, Ceidwad y Sêl: "Mae gan Lywodraeth Cymru raglen ddeddfu uchelgeisiol dros y pum mlynedd nesaf, o greu system addysg sy'n caniatáu i'n plant gyrraedd eu llawn botensial i gael y gwerth gorau am arian gan ein hawdurdodau lleol, diwygio gwasanaethau cymdeithasol ac amddiffyn a chreu swyddi a thwf.
"Mae'r sêl newydd yn bwysig dros ben yn gyfansoddiadol a symbolaidd.
"Dyma fydd y Sêl Gymreig gyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr. Mae'n nodi bod llywodraeth ddatganoledig Cymru wedi dod i oed, ac fe fydd y sêl yn pwysleisio sut yr ydym yn defnyddio'n pwerau newydd er budd pobl Cymru."