'Codi safonau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer newid dulliau cofrestru gweithwyr ym maes addysg "er mwyn codi safonau proffesiynol".
Ar hyn o bryd dim ond athrawon cymwysedig sy'n gorfod cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Fel rhan o gynllun gweithredu mae Mr Andrews wedi cynnig 20 pwynt ac ehangu'r gofyniad i gynnwys addysg bellach, dysgu sy'n seiliedig ar waith, cynorthwywyr addysgu ac o bosibl weithwyr ieuenctid a staff cymorth eraill.
'Cyfrifoldeb'
Dywedodd: "Rwyf eisoes wedi dweud faint yr wyf yn gwerthfawrogi gwaith pob un sy'n gweithio mewn ysgolion, colegau, maes dysgu sy'n seiliedig ar waith a lleoliadau addysgu anffurfiol ac sy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i'n plant a'n pobl ifanc i wireddu eu llwyr botensial.
"Mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi ymarferwyr yn y system addysg.
"Felly rwy'n bwriadu gwneud nifer o ddiwygiadau i gefnogi'r gweithlu ehangach ac yn bwriadu defnyddio darpariaethau un o'r Biliau Addysg i sicrhau bod y newidiadau hyn yn dod i rym."
Ar hyn o bryd mae gwahaniaethau rhwng y gofynion ar gyfer safonau proffesiynol, cymwysterau, hyfforddiant cychwynnol, rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol parhaus yn sectorau gwahanol y gweithlu addysg.
Dywedodd y gweinidog fod rhai o'r gwahaniaethau yn gwbl briodol ac yn adlewyrchu'r gwahaniaethau gwirioneddol o ran gofynion y sectorau ond fod y gweddill yn "fwy artiffisial, yn creu rhwystrau ac yn atal cydweithredu a symud ymhlith y gweithlu ynghyd â chyfyngu ar ddatblygiad gyrfa unigolion".
'Cynnal safonau'
Y cynnig yw ailgyfansoddi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu greu corff cofrestru newydd ar gyfer Cymru er mwyn cynnwys y proffesiynau addysg ehangach.
Ychwanegodd Mr Andrews: "Un o nodweddion allweddol nifer o broffesiynau yw eu bod yn cofrestru â chorff proffesiynol sy'n pennu ac yn cynnal safonau proffesiynol gan felly sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i fod â ffydd yn yr aelodau.
"Gall corff proffesiynol effeithiol hefyd ddadansoddi gwybodaeth am y gweithlu a'u tueddiadau ynghyd â nodi bylchau neu gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol gan felly gefnogi'n hagenda ar gyfer gwella."
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymateb i'r ymgynghoriad yw Mawrth 30, 2012.