'Mwy o effaith ar gefn gwlad'

  • Cyhoeddwyd
Person di-gartrefFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mudiad yn 'disgwyl i'r galwadau gynyddu'

Mae pennaeth mudiad sy'n helpu pobl ddigartref wedi dweud bod y cyni economaidd yn effeithio'n fwy ar gefn gwlad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymdeithas Gofal Ceredigion, Guy Evans, nad oedd digon o swyddi sector preifat mewn ardaloedd gwledig.

"Y tu allan i'r sector cyhoeddus, roedd adeiladu yn un o'r prif ddiwydiannau yng Ngheredigion.

"Roedd byddin fach o adeiladwyr yma ond gan fod pobl yn ffaelu cael benthyciadau neu forgeisi does dim gwaith adeiladu.

"Mae'n anodd iawn i'r adeiladwyr newid swyddi os nad oes swyddi eraill ar gael."

Help

Dywedodd fod llawer o bobl oedd yn y diwydiant yn gofyn am help.

Yn y cyfamser, mae Shelter Cymru wedi rhybuddio y gallai'r cyni economaidd arwain at fwy o bobl ddigartref.

Mae llefarydd wedi dweud: "Mae nifer o resymau, diweithdra, lleihau oriau gwaith, toriadau budd-dal tai, a phrinder tai fforddiadwy."

Dywedodd Mr Evans: "Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ein mudiad ni wedi helpu 632 o bobl naill ai i ddod o hyd i gartre newydd neu i gadw eu cartrefi.

"Yn sicr, mae mwy o bobl eisiau help ac rydyn ni'n disgwyl i'r galwadau gynyddu," meddai.

"Ond, yn anffodus, rydyn ni wedi gorfod gwrthod ambell un."

Er bod y mudiad dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni, dywedodd ei fod yn poeni am y dyfodol.

"Rydyn ni'n ymwybodol o doriadau gwariant cyhoeddus awdurdodau lleol.

'Bygythiad'

"Pan mae'r angen mwya am ein gwasanaethau ni dyna pryd yr ydyn ni o dan y bygythiad mwya."

Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl, mae angen i awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill ardaloedd gwledig weithio mewn partneriaeth a, lle bo hynny'n briodol, mesur hyd a lled a natur digartrefedd.

Dylent hefyd rannu profiadau ac adnoddau er mwyn cyflenwi gwasanaethau a dewisiadau o ran tai sy'n hygyrch i bobl cefn gwlad.

Yn ôl y strategaeth, mae'r llywodraeth yn eu helpu i gyflawni hyn ac i gael gwell dealltwriaeth o'r broblem.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol