Llundain 2012: Athletwyr yn paratoi

  • Cyhoeddwyd

O'r diwedd mae blwyddyn y Gemau Olympaidd wedi ein cyrraedd. Mae athletwyr o Gymru wedi bod yn hyfforddi'n galed dros gyfnod y gaeaf gyda'r gobaith o gyflawni eu llawn botensial.

Mae Newyddion Ar-lein yn ailymweld â rhai o'r athletwyr sy'n hyfforddi ar gyfer cyfle pwysicaf eu gyrfaoedd.

Mae'n gyfle i weld pwy sy'n edrych yn eithaf sicr o gael hawl i gystadlu, a rhai sydd â rhywbeth i'w brofi cyn daw Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

David Davies, nofiwr, 26 o'r Barri

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

David Davies: Enillydd y fedal efydd yn y 1500m nofio yn Athen 2004

Mis Mawrth 2012 yw'r dyddiad pwysig ym mywyd David Davies pan fydd yn cystadlu yn dreialon y tîm Prydeinig.

Er iddo ennill y fedal arian yng ngemau Beijing 2008, mae 2011 wedi bod yn flwyddyn anodd i'r nofiwr - a phenderfynodd cael seibiant o'r gamp am gyfnod.

"Fi'n teimlo'n dda yn y pwll nawr, ac mae fy ffitrwydd yn gwella pob wythnos," meddai David, gan ychwanegu fod teimlo'n hapus yn hanfodol wrth iddo baratoi trwy nofio 50 milltir yr wythnos a chadw'n gaeth i'r rheolau ar sut a phryd i fwyta, hyfforddi a chysgu.

Un peth sy'n sbarduno David yw'r awydd i wella ar ei berfformiad yng nghystadleuaeth nofio dŵr agored.

Collodd y fedal aur oherwydd iddo golli ei ffordd tua diwedd y ras yn Beijing 2008.

"Dwi'n gobeithio gwella ar fy mherfformiad yn Beijing," meddai.

"Mae'r cwrs yn berffaith; wyth lap o lyn y Serpentine heb lot o le i fynd yn anghywir i rywun fel fi sydd wedi arfer nofio yn y pwll. Bydd reit yng nghanol Llundain, gyda Knightsbridge yn y cefndir a phawb yn gweiddi."

"Ond rhaid gwneud y treialon ar gyfer y pwll yn gyntaf.

"Y gaeaf yw ble rydych yn gwneud yr holl waith caled. Roedd yn brofiad haws yn ne Awstralia (ar ddiwedd 2011) oherwydd y tywydd braf , ond dwi'n hapus iawn yma ym mhwll Caerdydd."

Sarah Connolly, reslwr 63kg, 22 o Faesteg

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cystadlodd Sarah yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010

Bydd hi'n waith caled wrth geisio sicrhau lle yn nhîm reslo Prydain. Bydd sawl cystadleuaeth cyn y gwanwyn i weld pwy all gyrraedd y brig.

Ond mae gan Sarah ragor o bethau i boeni am du hwnt i chwaraeon.

"Dwi wedi colli fy swydd a ddim yn gallu fforddio peidio gweithio," meddai Sarah, oedd yn arfer gweithio mewn adran farchnata.

"Ond dydy o ddim yn hawdd iawn - 'does 'na ddim llawer o bobl sydd am roi swydd ac yna amser i ffwrdd i chi gystadlu.

"Dwi'n ceisio gorffwys pan nad ydw i'n cystadlu. Ond dwi yn credu bod fy ffitrwydd yn gwella trwy'r amser, a dwi'n gobeithio gwneud yn ddigon da i gyrraedd Llundain."

Rhys Williams, 400m dros y clwydi, 27 o Ben-y-bont

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Rhys y fedal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010

Ar ôl siom o beidio cael ei ddewis i fynd i Bencampwriaethau Athletau'r Byd yn 2011, mae'r clwydwr yn benderfynol o fod yn rhan o'r tîm Olympaidd.

"Dwi heb gael anaf dros y ddwy flynedd diwethaf," meddai Rhys Williams, sydd wedi dewis symud o Gaerdydd i Lundain er mwyn hyfforddi.

"Mae o'n mynd yn wych ar hyn o bryd.

"Dwi'n siŵr fod pob athletwr yn dweud hynny, ond dwi wir yn codi'n dda, yn gwibio'n dda ac yn gwella fy amserau personol.

"Er hynny, mae o mor oer yn Llundain dwi am fynd i De Affrig ac America ddechrau'r flwyddyn. Dydy o ddim yn hawdd iawn i wibio pan mae'n bwrw eira!"

Penderfynodd Rhys gymryd ychydig o saib o'r byd athletau gyda chyfnod byr o brofiad gwaith yn yr hydref.

Ond nawr o hyn ymlaen mae o am ganolbwyntio ar y Gemau Olympaidd.

Jacob Thomas, chwaraewr boccia, 17 o Fethesda ger Arberth

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jacob yn astudio gwyddoniaeth chwaraeon

Her Jacob yw canolbwyntio ar ei astudiaethau coleg yn ogystal â hyfforddi fel aelod o dîm elitaidd boccia Paralympaidd Prydain.

"Dwi'n mwynhau yn y coleg - rhywbeth gwahanol i ganolbwyntio arno yn hytrach na boccia," meddai Jacob, sy'n astudio gwyddoniaeth chwaraeon.

"Ond mae pethau yn mynd yn dda, ar ôl i mi ennill pencampwriaethau Prydain a dod yn bedwerydd ym mhencampwriaeth Ewrop dros y wythnosau diwethaf."

Yn sicr o'i le o fewn tîm boccia Paralympaidd Prydain ar gyfer 2012, nod Jacob yw defnyddio'r holl hyfforddiant ychwanegol i wella ei gêm.

Aled Sïôn Davies, taflu'r ddisgen a'r pwysau, 20 o Ben-y-bont

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled wedi ennill dwy fedal aur ym mhencampwriaeth y byd

Mae popeth yn mynd yn dda i'r taflwr disgen a phwysau, sydd eisoes wedi taflu'n ddigon pell i gael ei ddewis fel rhan o'r tîm Paralympaidd.

"Fi am gystadlu mewn cystadleuaeth fach yng Nghaerdydd yn Ionawr i weld sut fi'n taflu, gan fy mod i'n teimlo'n wych," meddai Aled, sy'n cystadlu yng nghategori F42 yn y gemau oherwydd nam genedigol ar ei goes.

Dywedodd iddo gael dianc rhag hyfforddi am chwe diwrnod yn ystod cyfnod y Nadolig.

Ond bu'n rhaid iddo gadw at ei ddiet caeth.

"Dwi fel arfer yn cael uwd a smoothie i frecwast, yna diod protein cyn cinio," meddai. "Yna dwi'n cael llysiau, cig, y protein, a charbohydrad (taten neu basta) i ginio a the.

Dywedodd ei fod hefyd am fynd i Bortiwgal a'r Unol Daleithiau dros y gaeaf oherwydd y tywydd mwyn.

"Fi am gael rhagor o fitamin D - does 'na ddim llawer o haul yng Nghymru adeg yma, ac mae'n bwysig cael ychydig bach o haul wrth hyfforddi."