S4C yn dod i setliad gyda'r cyn-brif weithredwr Siân Doyle

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo fel prif weithredwr S4C ym mis Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi dod i setliad gyda'r cyn-brif weithredwr Siân Doyle "i ddod â'i holl achosion" yn erbyn y darlledwr a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams i ben.
Cafodd Ms Doyle ei diswyddo o'i swydd gyda'r darlledwr ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o "ymddwyn fel unben a chreu diwylliant o ofn".
Yn dilyn hynny, fis Chwefror eleni, daeth i'r amlwg ei bod wedi cyflwyno achos niwed personol yn erbyn ei chyn-gyflogwr yn yr Uchel Lys.
Ond dywedodd S4C ddydd Gwener fod y "partïon yn falch o fod wedi datrys eu gwahaniaethau ac o fod wedi dod â'r mater i ben".
Dyw telerau'r setliad ddim wedi eu datgelu, a dywedodd S4C fod y cytundeb wedi'i gyrraedd "heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd".
Dywedodd datganiad ar ran gŵr Ms Doyle, Rob Doyle, eu bod yn falch o ddod i setliad er mwyn "symud 'mlaen gyda'n bywydau".
Dywedodd y cyn-gadeirydd Rhodri Williams nad oedd ganddo unrhyw beth i'w ychwanegu at ddatganiad S4C.

Rhodri Williams oedd cadeirydd S4C tra roedd Siân Doyle yn brif weithredwr
Daeth honiadau o fwlio yn S4C i'r amlwg yn Ebrill 2023, pan gafodd cwyn gan undeb Bectu ei ryddhau i'r cyfryngau.
Fe wnaeth y cadeirydd ar y pryd, Mr Williams, lansio ymchwiliad annibynnol a gafodd ei gynnal gan gwmni Capital Law.
Cafodd Ms Doyle ei diswyddo o'i rôl fel prif weithredwr, oedd yn talu £162,000 y flwyddyn, yn fuan cyn i adroddiad Capital Law gael ei gyhoeddi.
Roedd honiadau o iaith sarhaus gan Ms Doyle yn cael eu dyfynnu yn yr adroddiad, gan gynnwys sylwadau dilornus o gyd-weithwyr a chyflwynwyr y sianel.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "adnabod na derbyn yr honiadau".
Dywedodd Ms Doyle: "Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a'i ddarparu gan y cadeirydd felly dyw hi'n ddim syndod, o 92 o bobl oedd yn rhan o'r ymchwiliad, i'r adroddiad ganolbwyntio ar farn lleiafrif bach."
Ychwanegodd nad oedd wedi cael rhybudd cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, na 'chwaith wedi cael cyfle i ymateb gan S4C, a'i bod wedi darllen yr adroddiad gyntaf yn y cyfryngau.
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
Cyflwynodd Ms Doyle ei hachos i'r Uchel Lys ar 7 Chwefror, gan enwi S4C a chyn-gadeirydd y darlledwr, Rhodri Williams, fel diffynyddion.
Mewn datganiad bryd hynny dywedodd cyfreithiwr Ms Doyle iddi ddioddef "cyfnod cwbl eithriadol ac anaddas o gamdriniaeth" tra'n brif weithredwr, sydd wedi "niweidio ei hiechyd a'i lles yn ddifrifol".
Ni wnaeth S4C na Mr Williams ymateb ar y pryd.
Mae BBC Cymru yn deall fod y setliad wedi'i gyrraedd am resymau pragmataidd, ar gyngor yswirwyr a chwmnïau cyfreithiol allanol ar gyfer S4C a Rhodri Williams.
Mae rhaglen Newyddion S4C hefyd ar ddeall nad oes unrhyw arian cyhoeddus wedi'i wario ar y setliad.
Mae'r rhaglen hefyd wedi cael gwybod nad yw'r darlledwr wedi cael trafodaethau eto gydag yswirwyr ynglŷn ag a fydd eu premiymau yn cynyddu.

Dywedodd S4C fod telerau'r cytundeb yn "gyfrinachol"
Dywedodd y darlledwr mewn datganiad ddydd Gwener: "Mae S4C heddiw yn cadarnhau bod setliad wedi'i gytuno gyda Siân Doyle i ddod â'i holl achosion yn erbyn S4C a Rhodri Williams i ben.
"Mae telerau'r cytundeb hwnnw'n gyfrinachol ac mae'r setliad wedi'i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd.
"Mae'n anorfod y byddai parhau â'r prosesau cyfreithiol wedi golygu amser, cost, a straen sylweddol i bawb dan sylw. "Mae'r partïon yn falch o fod wedi datrys eu gwahaniaethau ac o fod wedi dod â'r mater i ben.
"Yn dilyn y mater hwn, cynhaliodd S4C adolygiad llywodraethu annibynnol ac mae eisoes wedi cyflwyno Cod Diwylliant newydd a chamau, ymysg mesurau eraill, i gefnogi Awdurdod Annibynnol Safonau'r Diwydiannau Creadigol (CIISA) er mwyn sicrhau bod gwerthoedd S4C yn cael eu cynnal ar a thu hwnt i'r sgrin.
"Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn."
'Symud ymlaen'
Dywedodd Rob Doyle eu bod wedi cytuno ar y setliad am ei fod yn dod â'r mater i ben, "yn osgoi achos cyfreithiol hir a chost pellach diangen i'r trethdalwr".
Ychwanegodd ei fod yn eu galluogi i "symud 'mlaen gyda'n bywydau".
Dywedodd hefyd fod ei wraig "eisoes wedi gneud cyfraniad personol sylweddol i elusen sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhyw yn y gweithle".
Dywedodd Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU fod unrhyw benderfyniadau o'r fath yn fater i'r darlledwr, ond maen nhw wedi croesawu'r ffaith bod setliad wedi'i gyrraedd.
Dyw'r setliad yma ddim yn cael unrhyw effaith ar achos y cyn-brif swyddog cynnwys Llinos Griffin-Williams, sy'n ceisio hawlio mwy na £560,000 gan y darlledwr wedi iddi hi gael ei diswyddo.