Plaid Cymru yn addo gofal plant am ddim i bob rhiant

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gam pwysig iawn o ran helpu teuluoedd gyda chostau byw," medd Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru'n dweud y bydd rhieni plant sydd rhwng naw mis a phedair oed yn derbyn o leiaf 20 awr o ofal plant yr wythnos am ddim erbyn 2031, os mai nhw fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf.

Mae'r arweinydd Rhun ap Iorwerth wedi addo ymestyn cynnig gofal plant presennol Cymru, gan fynd ymhellach na'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr trwy ei wneud ar gael i bob teulu.

Ar hyn o bryd, mae cymorth gyda chostau gofal plant wedi'i gyfyngu i deuluoedd lle mae'r rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant, neu i blant ifanc iawn sy'n byw mewn ardal 'Dechrau'n Deg'.

Cynllun gan y llywodraeth ydy 'Dechrau'n Deg', sy'n helpu teuluoedd sydd â phlant dan bedair oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.

Mae Plaid Cymru yn dweud y byddai'r polisi newydd werth £32,500 i deuluoedd am bedair blynedd gyntaf eu plentyn.

Byddai teuluoedd lle mae'r rhieni mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg, yn dal i dderbyn 30 awr yr wythnos ar gyfer plant tair i bedair oed.

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026

Byddai'r cynllun yn caniatáu i deuluoedd sydd ddim yn gymwys hawlio 20 awr yr wythnos ar gyfer plant tair i bedair oed, am 48 wythnos o'r flwyddyn.

Byddai pob teulu yn cael hawlio 20 awr yr wythnos ar gyfer plant naw mis oed hyd at ddwy oed.

Erbyn diwedd y cyfnod cyflwyno pum mlynedd, byddai'r blaid, medden nhw, yn gwario tua £500m yn ychwanegol y flwyddyn ar ofal plant.

Byddai hynny yn dod â chyfanswm y gost i £800m.

Maen nhw'n dweud y gall yr arian hwn ddod o gyllideb Llywodraeth Cymru, gyda chred y bydd tua £400m ar gael yn y gyllideb nesaf os fydd gwasanaethau eraill yn cynyddu gyda chwyddiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan bwysau i roi cynnig sy'n cyfateb i'r ddarpariaeth yn Lloegr, lle mae rhieni sy'n gweithio yn derbyn gofal plant am ddim ar gyfer plant rhwng naw mis a dwy oed.

Dywedodd Sefydliad Bevan yn gynharach eleni fod costau gofal plant uchel yn gwthio mwy o deuluoedd i dlodi ac allan o waith.

Pwy fyddai'n cael hawlio'r arian?

Ar hyn o bryd mae rhieni yng Nghymru yn gallu gwneud cais am hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant yr wythnos - wedi ei ariannu gan y llywodraeth.

Er mwyn derbyn yr arian hwnnw mae angen i rieni fod mewn gwaith, ar famolaeth neu dadolaeth, absenoldeb statudol arall, mewn addysg neu hyfforddiant.

Dim ond ar gyfer plant tair a phedair oed mae hynny ar gael, a dim ond os yw'r rhieni yn derbyn llai na £100,000 y flwyddyn gyda'i gilydd.

Mae gan rieni plant dwy oed, sy'n gymwys, hawl i gael 12 awr a hanner o ofal yr wythnos o dan gynllun Dechrau'n Deg, ond dyw'r arian hwnnw ddim ar gael yn genedlaethol.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn arian y maen nhw'n "gwybod y gallwn ni ei fforddio"

Byddai cynllun Plaid Cymru mewn tri rhan. Maen nhw eisiau cadw'r cynnig 30 awr presennol i blant tair i bedair oed, tra'n ymestyn y 12 awr a hanner yr wythnos i blant dwy oed.

Y cam nesaf fyddai rhoi 20 awr i rieni sydd ddim yn gymwys ar hyn o bryd - fel y rhai sydd ddim mewn gwaith na hyfforddiant, neu'r rhai sy'n ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.

Yna, byddai'r blaid yn ceisio cynyddu nifer yr oriau sy'n cael eu cynnig i rieni plant iau na dwy oed yn flynyddol.

Byddai'r cynllun yn cael ei gyflwyno dros gyfnod y Senedd nesaf, gyda'r polisi yn cael ei weithredu'n llawn ym mlwyddyn ariannol 2030/31.

'Gwybod y gallwn ni ei fforddio'

Cafodd ffynonellau o fewn y blaid eu holi pam y dylai rhieni sydd ag incwm o dros £100,000 gael gofal plant am ddim.

Dywedon nhw fod gwasanaethau sy'n cael eu darparu i bawb yn well, a bod pobl o bob demograffeg yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth BBC Cymru y "gall hyn wneud gwahaniaeth enfawr".

"Mae'n gam pwysig iawn o ran helpu teuluoedd gyda chostau byw.

"Mae hwn yn gyffredinol, sy'n ei wneud yn wahanol i'r system yn Lloegr," meddai, gan ychwanegu ei fod yn arian y maen nhw yn "gwybod y gallwn ni ei fforddio".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.