Cyn-gynghorydd Gwynedd wedi ei gyfeirio at y tribiwnlys safonau

Iwan Huws
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Iwan Huws yn 2012 - fe gafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Gwynedd yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gyn-gynghorwyr Gwynedd wedi ei gyfeirio at y tribiwnlys safonau.

Fe ymddiswyddodd Iwan Huws fis diwethaf fel cynghorydd Plaid Cymru dros ward Bethel a'r Felinheli.

Bydd isetholiad yn cael ei gynnal yno fis nesaf.

Mae rhaglen Newyddion S4C wedi ceisio cysylltu gyda Mr Huws am ymateb.

Cynghorydd ers 2022

Cafodd Iwan Huws ei ethol yn aelod o Gyngor Gwynedd yn 2022, yn un o ddau gynghorydd dros ward Bethel a'r Felinheli, ond fe ymddiswyddodd ar 18 Medi.

Mae swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus bellach wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn, ac wedi ymchwilio i, gŵyn yn erbyn Mr Huws.

Dywedon nhw eu bod wedi cyfeirio eu hadroddiad at Banel Dyfarnu Cymru sy'n ystyried a ydy unigolion wedi torri cod ymddygiad.

Mae natur y gŵyn yn erbyn Mr Huws yn ymwneud â honiad o ymddwyn mewn ffordd oedd o bosib yn "dwyn anfri ar ei swydd neu ar yr awdurdod lleol".

Bydd y mater nawr yn destun gwrandawiad tribiwnlys.

Ymgeisydd Plaid Cymru yn 2011

Roedd Mr Huws yn bennaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru am chwe blynedd tan 2009.

Cyn hynny roedd yn brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Fe fuodd ar rai o fyrddau'r BBC ac ITV Cymru hefyd.

Yn 2011 safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad bryd hynny yn etholaeth Aberconwy.

Bydd isetholiad ar gyfer hen sedd Mr Huws ar Gyngor Gwynedd yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd.

Mae dyddiad y tribiwnlys eto i'w gadarnhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.