£3.3m am ysgol Gymraeg newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo cynllun i agor ysgol newydd cyfrwng Cymraeg gwerth £3.3 miliwn.
Bydd yr adeilad newydd ar safle presennol Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn darparu 240 o leoedd ar gyfer plant rhwng 3 ac 11 oed.
Fe fydd addysg uwchradd yn parhau ar y safle, gan gynnig safle addysgol cynhwysfawr i blant rhwng 3 ac 19 oed, ond fe fydd ardaloedd dysgu ar wahân i blant cynradd ac uwchradd gyda mynedfa ar wahân i adnoddau fel y ffreutur ac yn y blaen.
'Cynlluniau cyffrous'
Dywedodd y Cynghorydd Eudine Hanagan, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar fwrdd Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Cynllun y cyngor yw cynnig y dechrau gorau posib i blant mewn addysg drwy gynnig adnoddau gwych sy'n darparu addysg feithrin, cynradd ac uwchradd o dan un to.
"Mae'r rhain yn gynlluniau cyffrous dros ben, ac rydym yn edrych ymlaen yn awchus at agoriad ysgol cyfrwng Cymraeg newydd gwych yn Rhondda Cynon Taf."
Mae'r awdurdod wedi cynyddu'r nifer o leoedd sydd ar gael ar gyfer addysg gynradd cyfrwng Cymraeg i 7,600.
Ond mae'r galw yn dal i dyfu gan arwain at benderfyniad y cyngor i fuddsoddi'r £3.3m yn yr ysgol newydd.