'Braf iawn gweld Pont y Borth yn ailagor eto'

pont y borth
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa fore Gwener wrth i Bont y Borth ailagor

  • Cyhoeddwyd

Mae Pont y Borth wedi ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr.

Rhwng 07:00 a 19:00 dim ond cerbydau hyd at dair tunnell fydd yn gallu croesi, ac fe fydd y bont ar gau dros nos.

Daw hyn ar ôl i'r bont gau yn ddirybudd y penwythnos diwethaf, yn dilyn cyngor brys gan arbenigwyr diogelwch.

Tra bydd y bont ar gau, bydd gwaith ffordd ac ymchwiliadau pellach yn cael eu cwblhau.

Tra bydd y bont ar agor, mae mynediad yn cael ei chyfyngu i gerbydau â phwysau hyd at dair tunnell yn unig.

Mae mesurau rheoli traffig mewn grym - un llif traffig fydd oddi ar yr ynys yn y bore ac un llif fydd i mewn i'r ynys o 13:00 ymlaen.

Mae modd i gerddwyr a seiclwyr ddefnyddio'r bont dros nos, ac mae cynllun i ganiatáu mynediad i gerbydau brys mewn lle os nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Roedd busnesau wedi dweud wrth y BBC na allai cau Pont y Borth fod wedi dod ar amser gwaeth i'r ardal ond fore Gwener roedden nhw'n croesawu ailagor y bont yn fawr.

"Mae'r stryd fawr wedi bod yn dawel iawn - bron fel cyfnod Covid ond mae pobl wedi dod i'n cefnogi ni," meddai Rhiannon Elis-Williams o siop Awen Menai ym Mhorthaethwy ar raglen Dros Frecwast.

Yn ystod yr wythnos fe wnaeth Cyngor Ynys Môn annog pobl i gefnogi busnesau lleol Porthaethwy.

"Ni'n gwerthfawrogi y gefnogaeth yn fawr iawn ond mae'n braf gweld rhywbeth yn symud ar y bont," ychwanegodd Ms Elis-Williams.

"'Dan ni'n croesi bysedd neuth hwn weithio a bydd pobl yn ddigon hyderus i deithio.

"Mae bron yr adeg gwaethaf i gau achos rwan 'dan ni'n prynu stoc Dolig i gyd.

"Mae 'na risg bo ni'n prynu gormod. Ein neges ni fel busnesau yma yn Borth yw bo ni ar agor."

Un arall sy'n croesawu bod y bont wedi ailagor yw Jane Walsh, perchennog caffi a pharlwr hufen iâ ym Mhorthaethwy.

"Dwi'n falch iawn ond hefyd yn falch bod lot o bobl wedi cefnogi ni yn ystod yr wythnos - yn enwedig ddydd Mercher a ddydd Iau," meddai.

"Ni'n gwerthfawrogi hefyd bod modd parcio am ddim yma."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra a diolch i bobl yr ardal am eu hamynedd.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod wedi cydweithio ag UK Highways A55 DBFO Ltd, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn i greu'r cynllun ailagor.

O'r lleoliad

Carwyn Jones, Gohebydd BBC Cymru

O fod ger Pont y Borth drwy gydol y bore, roedd dipyn o geir wedi dechrau croesi o Fôn i'r tir mawr ar ôl 07:00.

Roedd yna ychydig o oedi cyn agor, mi gafodd yr arwyddion eu symud tua 07:05 ond roedd ceir yn cael dechrau croesi wedyn.

Roedd nifer o swyddogion i'w gweld ger mynedfa'r bont, gan gynnwys gweithwyr priffyrdd a swyddog heddlu, i sicrhau fod pawb yn cadw at y terfyn pwysau.

Pont y BorthFfynhonnell y llun, Getty Images

Erbyn cyrraedd, daeth i'r amlwg mai dim ond tua pum cerbyd oedd yn cael croesi ar y tro, gyda'r ceir eraill yn gorfod disgwyl i'r pum cerbyd yna groesi'r holl ffordd cyn i bump arall gael croesi eto wedyn.

Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau y system ychwanegol yma yn ddiweddarach gan ddweud fod y rheolaeth traffig dros dro yma mewn grym er mwyn monitro cydymffurfiaeth â'r terfyn pwysau.

Mae'n amlwg yn gyfnod heriol i fusnesau annibynnol y dref hefyd, o fod yn siarad â rhai perchnogion busnes ger y bont heddiw.

Mae nifer yn falch o weld yr agor rhannol y bore 'ma, ond yn pryderu am ddyfodol eu busnesau pe bai rhaid cau eto yn y dyfodol.

Cawn weld dros y dyddiau nesaf felly os bydd yr agoriad rhannol yma yn helpu i leihau y tagfeydd 'dan ni wedi gweld dros y dyddiau diwethaf ac yn annog mwy o bobl i siopa ym musnesau bach y dref.

Pynciau cysylltiedig