Premiwm treth ar ail gartrefi i ostwng eto yn Sir Benfro

Tai ger y traeth yn Nhrefdraeth
Disgrifiad o’r llun,

Bu anghytuno o fewn cabinet y cyngor yn ystod yr wythnos, gyda rhai o blaid cadw'r premiwm 150%

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi pleidleisio dros ostyngiad pellach i'r premiwm treth y cyngor yn achos perchnogion ail gartrefi.

Fis Hydref y llynedd, fe benderfynodd y cyngor i leihau'r dreth ychwanegol o 200% i 150%.

Fe fydd y premiwm yn gostwng nawr i 125% yn dilyn pleidlais agos - roedd 26 o'r aelodau yn cymeradwyo'r cynnig a 25 yn ei wrthwynebu.

Methu wnaeth cynnig i leihau'r premiwm i 100%, o 29 o bleidleisiau i 21, ond fe gafodd cynnig arall yn ymwneud â sut i wario'r premiwm ei dderbyn, o 32 o bleidleisiau i 18 gydag un aelod yn ymatal pleidlais.

Mewn cyfarfod ddydd Iau, dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Cyngor Sir Penfro, Jon Haswell, y byddai gostwng y premiwm 25% yn creu bwlch ariannol pellach o £1.4m yng nghyllideb y cyngor.

Fe bleidleisiodd y cynghorwyr yn unfrydol dros gadw'r premiwm yn achos tai gwag y sir yn 300%.

Mae premiwm o 100% yn golygu talu dwbl y swm arferol o dreth y cyngor, ond mae'r premiwm hefyd yn cael ei ychwanegu i'r dreth ar gyfer plismona a chynghorau cymuned a thref.

Nod y premiwm yw sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio fel cartrefi, ac yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.

Roedd gweithgor treth Cyngor Sir Penfro wedi awgrymu lleihau'r premiwm i 100%, tra bod aelodau'r cabinet a phwyllgor craffu'n ffafrio ei gadw'n 150%.

Y dreth 'yn gwasgu ar bobl o Gymru'

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid ar y cyngor, Huw Murphy ei fod o blaid lleihau'r premiwm, er ddim mor isel â 100%.

Mae'n pryderu taw pwrpas gwreiddiol y dreth oedd i "godi mwy o dai fforddiadwy" a "dyw hynny ddim wedi digwydd", a bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i "gau'r bwlch o ran gwasanaethau".

Ond mae'n cydymdeimlo gyda pherchnogion ail gartrefi sy'n dweud bod 150% o bremiwm yn rhy uchel.

"Mae lot o tai yma yn cael eu perchnogi gan bobl Cymru - pobl sydd, falle, yn byw yng Nghaerdydd ac yn dod yn wreiddiol o Sir Benfro ac wedi etifeddu tŷ ac mae'r dreth yma yn gwasgu arnyn nhw," dywedodd.

Huw Murphy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Murphy o blaid gostwng y premiwm, ond mae'n poeni nad yw bwriad gwreiddiol y cynllun wedi ei wireddu hyd yn hyn

Ychwanegodd Mr Murphy nad yw economi'r sir "yn cynnig y swyddi i ddigon o bobl aros yn yr ardal".

"Dwi'n meddwl bod ni wedi rhoi amser iddo weithio ond ar ddiwedd y dydd mae dau ddiwydiant yn Sir Benfro, yn enwedig yn y gogledd - amaeth a thwristiaeth.

"Mae'n hanfodol bod ni'n amddiffyn y ddau ddiwydiant yma, ac mae ail dai a thai haf yn part o'r diwydiant yma."

Andrew a Rachel Richardson
Disgrifiad o’r llun,

Mae ail gartref Andrew a Rachel Richardson, a gafodd ei magu yn Nhreletert, yn fodd iddi hi fod yn agos at ei theulu a ffrindiau

Mae gan Rachel Richardson a'i gŵr, Andrew, o Lundain ail gartref yn Nhyddewi.

Wedi ei magu yn Nhreletert, dywed Rachael ei bod eisiau cartref yn y sir "er mwyn bod yn agosach at ei theulu" a ffrindiau.

Mae hi'n cytuno bod angen gwneud mwy i ddarparu tai i bobl lleol, ond dyw'r "dreth ychwanegol ddim yn cael ei defnyddio am hynny a dwi'n meddwl bod hynny yn anghywir.

"Dyw nhw dim yn gwneud i fi deimlo bod nhw eisiau fi'n ôl yn Sir Benfro."

Ychwanegodd y byddai'n fodlon talu premiwm ail gartrefi o 100%.

"Mae'n rhaid i'r arian fynd at beth maen nhw'n dweud mae'n mynd i fynd ato, achos dyw e ddim yn digwydd ar y foment."

Yn ôl ei gŵr, y gwir broblem yw "nad yw'r economi yn Sir Benfro yn darparu swyddi o ansawdd uchel" fyddai'n caniatáu i bobl ifanc aros a phrynu cartrefi.

'Llanast'

Mae'n annheg, medd Huw Murphy, bod rhai tai gwyliau'n cael eu heithrio rhag talu treth y cyngor, am eu bod ar osod am 182 o ddiwrnodau'r flwyddyn.

"Mae fe'n llanast. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn iawn bod miloedd... yn Sir Benfro a Chymru ddim yn talu ceiniog o dreth ar eu tŷ nhw achos maen nhw'n cyrraedd y targed o 182 dydd ac maen nhw'n cael 100% small business rate relief.

"Dylai fod pob tŷ yn cyfrannu at drethi cyngor lleol. Bydd hynny yn ffordd o roi treth mwy teg i bawb."

Tai yn ardal traeth y Parrog yn Nhrefdraeth, Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Tai yn ardal traeth y Parrog yn Nhrefdraeth, Sir Benfro

Mae ymgyrchwyr iaith yn cyfaddef bod ceisio asesu effaith y premiwm yn gymhleth, a bod y ddeddfwriaeth newydd "nid heb ei wendidau".

Dywedodd Prif Weithredwr mudiad Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts: "Cyn belled bod yna arian ychwanegol yn cael ei wario a'i neilltuo ar gyfer tai fforddiadwy, tai i bobl leol, mae hynny yn dda iawn, cyn belled â bod yr arian sylfaenol yn bodoli o hyd.

"Dyna fy ofn gyda llywodraeth leol yw bod yna ofynion gwasanaethau cymdeithasol yn gynyddol crebachu ar y gyllideb.

Dylan Bryn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n ddyrys, medd Dylan Bryn Roberts o'r mudiad Dyfodol i'r Iaith, gan fod prisiau'r ail gartrefi yn aml y tu hwnt i'r hyn gall pobl leol fforddio

"Problem sylfaenol y ddeddfwriaeth yw mae pobl wedi penderfynu gwerthu eu tai.

"Maen nhw yn dai rhwng £300,000 a £600,000, sydd mewn gwirionedd ymhell allan o gyrraedd pobl leol yng Ngwynedd neu Sir Benfro.

"Mae'r tai yn aros ar y farchnad heb eu gwerthu. Y cwestiwn yw pwy mewn gwirionedd fydd yn eu prynu nhw. Mae'n faes dyrys tu hwnt.

"Mae'n ymdrech ddiffuant gan Mark Drakeford, pan oedd yn Brif Weinidog, i geisio taclo'r sefyllfa.

"Mae'r ysbryd cywir yna ond yn amlwg mae angen mireinio'r ddeddfwriaeth i sicrhau bod yn gweithio yn effeithiol. Ond mae angen i awdurdodau cynllunio hefyd osod trothwy neu darged o, dyweder, 20% mewn ward neu bentref sydd yn dai haf.

"Mae yna waith o hyd i'w gyflawni."

Tai yn Nhrefdraeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r systemau cynllunio, eiddo a threthu yn cael eu diwygio, medd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'r heriau o fewn y sector tai

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad i gartref addas, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol.

"I gyflawni hyn, rydym yn diwygio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu.

"Prif amcanion ein newidiadau i drethi lleol yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg ac i wneud y defnydd mwyaf o eiddo, er budd cymunedau lleol.

"Mae ymgynghoriad ar y gweill i fireinio rheolau ar gyfer dosbarthu eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth, gan ymateb i adborth gan y sector."