Merch, 8, wedi marw ar ôl 'episod meddygol' mewn ysgol gynradd

- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth sydyn merch wyth oed wedi digwyddiad mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i adroddiad o "episod meddygol" yn Ysgol Gynradd Penrhys yng Nglynrhedynog toc wedi 14:00 ddydd Mercher.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bod y crwner wedi cael gwybod.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Fercher dywedodd yr ysgol y byddai ar gau dydd Iau, ac yn ailagor dydd Gwener.

Roedd car heddlu i'w weld tu allan i'r ysgol ddydd Iau, gyda'r ysgol ar gau i ddisgyblion
Dywedodd Gaynor Davies, cyfarwyddwr addysg a gwasanaethau cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf ei bod yn "hynod drist o glywed am farwolaeth drasig a sydyn disgybl yn Ysgol Gynradd Penrhys".
"Yn gyntaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad dwysaf a diffuant â'i theulu, ei ffrindiau, a chymuned ehangach yr ysgol.
"Roedd y disgybl blwyddyn pedwar yn aelod annwyl o gymuned glos ei hysgol a bydd pawb yn ei cholli'n fawr.
"Hoffwn ddiolch i staff yr ysgol a roddodd gymorth cyntaf nes i barafeddygon gyrraedd i gymryd yr awenau a'i chludo i'r ysbyty, lle, yn anffodus, bu farw'n ddiweddarach."
Ychwanegodd y bydd cymorth ar gael i ddisgyblion a staff yr ysgol.