Aelod Cynulliad yn galw am lenwi tai gwag drwy Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tŷ gwag wedi ei gauFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Y llynedd fe ddaeth 954 o gartrefi sector preifat yn ôl at ddefnydd awdurdodau lleol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei hannog i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau nifer y tai gwag yng Nghymru.

Yr amcangyfrif yw bod 23,000 o dai gwag.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar dai, Leanne Wood, yn dweud bod hynny'n warthus tra bod cynifer o bobl yn chwilio am gartrefi.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyhoeddi canllawiau i gynghorau ar "ystod eang o fesurau" i ddod â thai o'r fath yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus.

Dangosodd arolwg gan elusen Shelter Cymru bod dros 26,000 o dai yn cael eu hystyried yn wag yng Nghymru yn 2008/09.

Mesurau

"Mae'n warthus fod cymaint o bobl yn chwilio am gartref a bod gennym gynifer a 23,000 o dai yn wag ar draws Cymru," meddai Ms Wood.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio nifer o fesurau, gan gynnwys prynu gorfodol, er mwyn lliniaru'r broblem.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiodd Cyngor Sir Caerfyrddin orchymyn cyfreithiol prin i brynu'r eiddo yma yn Llangennech

"Mewn cyfnod o argyfwng ariannol sy'n gwaethygu, mae mwy a mwy o bobl yn cael trafferth talu morgais neu rent.

"Mae'r angen am dai fforddiadwy ar gynnydd a dyna pam mae'r angen i weithredu ar dai gwag yn tyfu'n bwysicach."

Pwysleisiodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi rhyddhau £5miliwn o arian cyfalaf fis diwethaf er mwyn dod â mwy o dai gwag yn ôl at ddefnydd cyhoeddus.

Yn gynharach y mis yma, fe ddefnyddiodd Cyngor Sir Caerfyrddin orchymyn cyfreithiol prin i gymryd perchnogaeth ac adnewyddu eiddo lleol yn Llangennech.

Ym marn y cyngor roedd yr hen eiddo gwag yn denu fandaliaid, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio sbwriel anghyfreithlon.

Mae'r eiddo bellach yn cael ei rhentu.