£2m i ymchwil canser y pancreas

  • Cyhoeddwyd
pancreatic cancerFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Canser y cefndedyn yw pumed achos mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganser

Mae gwyddonwyr sy'n ymchwilio i ganser y pancreas wedi derbyn grant o £2m er mwyn parhau â'u gwaith.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gobeithio dod o hyd i driniaeth newydd i osgoi canser y cefndedyn, neu'r pancreas.

Canser y cefndedyn yw pumed achos mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganser, gyda dim ond 3% yn goroesi mwy na phum mlynedd.

Cyngor Ymchwil Feddygol sydd wedi dyfarnu'r grant er mwyn ymchwilio i ba gelloedd sy'n gyswllt rhwng pancreatitis a chanser y pancreas.

'Prosesau moleciwlaidd'

Dywedodd arweinydd yr ymchwil, yr Athro Ole Petersen: "Mae'na brosesau moleciwlaidd hynod gymhleth ar waith, ond maen nhw'n allweddol i'n dealltwriaeth.

"Rydym yn gobeithio cynyddu ein dealltwriaeth er mwyn rhwystro datblygiad canser y pancreas".

Y llynedd fe wnaeth yr ymchwiliwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ddangos fod protein arbennig yn amddiffyn yn erbyn effaith alcohol yn y cefndedyn.

Dangoswyd bod cydberthynas cryf rhwng yfed alcohol a'r clefyd pancreatitis.

Mae'r protein, calmodulin, yn rhan o weithgaredd pob cell. Mae eu hastudiaethau hyd yn hyn yn dangos fod alcohol yn cael effaith llawer cryfach pan nad yw calmodulin yn bresennol.

Gall hyn arwain at pancreatitis sydd yn ei dro yn cynyddu'r risg o ddatblygu canser yn y cefndedyn, medd awduron yr astudiaeth.

Eu gobaith yw y bydd y darganfyddiad yn arwain ar ddatblygu cyffuriau i atal hyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol