Penodi Cyfarwyddwr Artistig ar gyfer canolfan Pontio

  • Cyhoeddwyd
Y cynllun ar gyfer y ganolfanFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun ar gyfer Canolfan Pontio

Mae Prifysgol Bangor wedi penodi Elen ap Robert yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio, canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi gwerth £40m y brifysgol.

Yn ôl y brifysgol, fe fydd hi'n "datblygu amrywiaeth o weithgareddau artistig ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd yn ogystal â defnyddio'r celfyddydau i ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol a'r gymuned."

Graddiodd Elen mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Sheffield cyn treulio chwe blynedd fel cantores opera broffesiynol.

Mae wedi bod yn therapydd cerdd, yn arbenigo mewn rhoi cefnogaeth i blant gydag anableddau dysgu ac anawsterau cyfathrebu yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy.

Ers 2005 roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri yng Nghaernarfon lle mae wedi datblygu rhaglen o ddigwyddiadau artistig a gweithgareddau cymunedol.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes: "Rwy'n hynod falch o gael croesawu Elen fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio.

"Mae'r prosiect yn gynllun cyffrous fydd yn dod â llawer o fudd i'r rhanbarth ac mae'r Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygu nid yn unig elfen theatr y ganolfan ond hefyd llawer mwy, gan gynnwys cyfrannu at y rhaglen gymunedol gynyddol amlwg a gweithio gyda myfyrwyr y brifysgol.

'Siarad Cymraeg'

"Bwriad Pontio, sydd i fod i agor ymhen dwy flynedd, yw dod â'r celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg a'r diwydiannau creadigol at ei gilydd ac ysgogi adfywiad economaidd y rhanbarth.

"Mae swydd Cyfarwyddwr Artistig yn allweddol i ddatblygiad hir dymor Pontio ac roeddem yn benderfynol o benodi rhywun allai siarad Cymraeg."

Dywedodd Elen ei bod yn "hynod falch" o gael ei phenodi ac y byddai'n "her enfawr ac un yr wyf yn edrych ymlaen ati'n fawr, yn enwedig gan fod gennym gymaint i'w wneud rhwng rŵan ac agor y ganolfan.

"Mae gan Pontio lawer iawn i'w gynnig i'r rhanbarth ac mae cyfle gwych i ni ddatblygu rhaglen greadigol newydd ac arloesol fydd yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb o bob oed," ychwanegodd.

Bydd hi'n dechrau yn ei swydd fis Ebrill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol