'Technoleg yn hwb i dwristiaeth yn y gogledd'
- Cyhoeddwyd
Gallai safleoedd twristaidd yng ngogledd Cymru fod yn rhan o gynllun arloesol i'w gwneud hi'n haws i ymwelwyr gael gwybodaeth am yr atyniadau.
Y syniad yw y byddai lleoedd fel Cestyll Caernarfon a'r Waun â'u cod bar eu hunain.
Mae Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru wedi penderfynu manteisio ar y dechnoleg sy'n golygu bod twristiaid yn gallu sganio'r codau gyda'u ffonau symudol cyn cyrraedd gwefannau sy'n cynnig gwybodaeth am yr atyniad.
Mae'r bartneriaeth wedi cynnwys y codau ar 250,000 o bamffledi Diwrnod Mawr Allan sy'n cael eu dosbarthu yng ngogledd Cymru, a gogledd orllewin a chanolbarth Lloegr.
'Arf arbennig'
Dywedodd Carole Startin, Pennaeth Marchnata a Digwyddiadau Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru: "Mae'n arf arbennig a gallwch chi greu eich codau unigryw yn hawdd iawn.
"Mae'n golygu y gallwch gynnwys manylion cardiau busnes, cyfeiriadau neu wybodaeth am yr atyniad - fel oriau agor a manylion eraill.
"Fe allwch chi osod y codau yn unrhyw le - ar yr atyniad ei hun, ar adeilad neu hyd yn oed ar ochr bws, a thrwy sganio'r cod gyda'ch ffôn fe fydd modd dod o hyd yn syth i'r wybodaeth neu'r wefan."
Yn ôl y bartneriaeth, bydd y wybodaeth yn cael ei hadnewyddu os yw oriau agor neu brisiau mynediad yn newid.
Dywedodd Esther Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr y bartneriaeth, fod y pamffledi eisoes yn cael eu dosbarthu yn y gogledd cyn cael eu dosbarthu dros y ffin yn ystod mis Chwefror.
"Rydym yn ceisio annog darparwyr i beidio â rhoi manylion am ddyddiadau a phrisiau yn eu pamffledi fel eu bod yn para'n hirach - gall ymwelwyr weld y wybodaeth hynny trwy'r codau."
Y nod yw torri costau ac amser, gan na fydd angen ail argraffu pamffledi os yw'r wybodaeth yn newid.